
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) (Diwygio) 2011.
(2) Yn y gorchymyn hwn ystyr “y gorchymyn” (“the order”) yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 .
(3) Daw'r gorchymyn hwn i rym ar 30 Mawrth 2011.
2 
Yn erthygl 6(2) o'r gorchymyn, yn lle'r ffurf Gymraeg rhodder—“
 Yr wyf i, , yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith.”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2011