
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw gais am drwydded forol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef .
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal amgylcheddol sensitif” (“environmentally sensitive area” ) yw—
(a) gwarchodfa natur forol o fewn yr ystyr a roddir i “marine nature reserve” yn adran 36 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981;
(b) safle Ramsar o fewn yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981;
(c) safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 28 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981;
(ch) ardal cadwraeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special area of conservation” gan Erthygl 1(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd);
(d) ardal gwarchodaeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special protection area” gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010;
 ystyr “cais am drwydded forol” (“application for a marine licence”) yw cais am drwydded i ymgymryd ag un neu ragor o weithgareddau morol trwyddedadwy;
 ystyr “ffi” (“fee”) yw'r ffi sy'n daladwy am benderfynu cais am drwydded forol;
 ystyr “tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol” (“environmental sensitivity supplement”) yw ychwanegiad at y ffi sy'n daladwy mewn perthynas â rhai ceisiadau am drwydded forol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at dabl â rhif yn gyfeiriad at y tabl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen.
4 

(1) Mae'r holl ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru.
(2) Mae'r holl ffioedd yn daladwy pan ofynnir am y tâl.
(3) Caniateir talu unrhyw ffi drwy ddull electronig.
(4) Bydd Gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw ffi pan fydd arian cliriedig yn eu meddiant ar gyfer swm cyfan y ffi honno.
(5) Bydd unrhyw ffi neu ran o ffi na fydd wedi ei thalu yn adenilladwy gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.
5 

(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu nad yw'n dod o fewn rheoliad 9 (prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 1.
(2) Ond, ac eithrio yn achos cais y mae band 1 yn nhabl 1 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Os bwriedir ymgymryd ag un neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(4) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2.
6 

(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir, nad yw'n dod o fewn paragraff (4), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 3.
(2) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cyfalaf, mae'r raddfa ffioedd yn y drydedd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(3) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cynnal a chadw, mae'r raddfa ffioedd yn y bedwaredd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(4) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir at ddefnydd llesiannol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 4.
(5) Ond mae paragraff (4) yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Os bwriedir ymgymryd ag neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais, y cyfeirir ato ym mharagraff (4), o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(7) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2, yn ddarostyngedig i'r addasiad ym mharagraff (8).
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid darllen cyfeiriad yn nhabl 2 at gost y prosiect fel pe bai'n gyfeiriad at gost y prosiect y mae'r deunydd a dreillir ac y bwriedir ei waredu yn tarddu ohono.
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “defnydd llesiannol” (“beneficial use”) yw defnydd sy'n llesiannol i'r amgylchedd;
 ystyr “deunydd a dreillir” (“dredged material”) yw unrhyw sylwedd neu wrthrych sy'n tarddu o dreillio morol.
7 
Pan fo cais am drwydded forol yn ymwneud â gwaredu gwastraff pysgod, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 5.
8 

(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio morol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at yr ail golofn yn nhabl 6.
(2) Ond mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Pan fo penderfynu cais am drwydded forol o dan baragraff (1) yn cynnwys cynnal ymchwiliad, mae'r ffi a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw yn daladwy yn ychwanegol at y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
9 
Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect ynni adnewyddadwy alltraeth, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 7.
10 
Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phiblinell danfor neu adeiledd cysylltiedig ac yn dod o fewn disgrifiad yn y golofn gyntaf yn nhabl 8, penderfynir y ffi briodol drwy gyfeirio at yr ail golofn o'r tabl hwnnw.
11 
Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â dyddodi olrheinyddion neu liwurau, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 9.
12 
Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag angorfeydd syml a chymhorthion mordwyo, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 10.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011
YR ATODLEN
Rheoliadau 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12

Tabl 1
Band Cost y prosiect (£) Ffi (£)
1 0 i 5,499 127
2 5,500 i 9,999 715
3 10,000 i 49,999 1,025
4 50,000 i 1,999,999 2,275
5 2 filiwn i 4,999,999 4,525
6 5 miliwn i 19,999,999 7,191
7 20 miliwn i 49,999,999 12,010
8 50 miliwn ac uwch 38,650

Tabl 2
Band Cost y prosiect (£) Tâl atodol (£)
1 5,500 i 9,999 275
2 10,000 i 49,999 575
3 50,000 i 1,999,999 950
4 2 filiwn i 4,999,999 1,350
5 5 miliwn i 19,999,999 1,605
6 20 miliwn i 49,999,999 1,720
7 50 miliwn ac uwch 2,750

Tabl 3
Band Maint a waredir (tunelli) Ffi (£) Cyfalaf Ffi (£) Cynnal a chadw
1 0 i 9,999 4,500 3,650
2 10,000 i 49,999 9,100 7,225
3 50,000 i 99,999 12,800 9,950
4 100,000 i 499,999 19,850 15,950
5 500,000 i 999,999 28,850 22,050
6 1,000,000 ac uwch 43,500 34,750

Tabl 4
Band Maint a waredir (tunelli) Ffi (£)
1 0 i 99,999 715
2 100,000 i 999,999 2,275
3 1,000,000 ac uwch 4,525

Tabl 5
Maint a waredir Ffi (£)
Unrhyw 2,995

Tabl 6
Cais Ffi (£) Ffi ychwanegol pan gynhelir ymchwiliad(£)
Echdynnu mwynau drwy dreillio morol 27,500 15,000

Tabl 7
Band Gallu cynhyrchu (megawatiau) Ffi (£)
Band 1 0 i 0.99MW 2,000
Band 2 1 i 4.99MW 6,000
Band 3 5 i 99MW 26,222
Band 4 100MW ac uwch 38,650

Tabl 8
Cais Ffi (£)
Cyn-ysgubo 10,670
Dadlwytho cerrig 2,275
Matresu 2,275
Selio ffynhonnau neu bibellau (pan y'u gadewir) 2,275

Tabl 9
Cais Ffi (£)
Dyddodi olrheinyddion 83
Dyddodi lliwurau 83

Tabl 10
Cais Ffi (£)
Angorfeydd syml 127
Cymhorthion mordwyo 127