
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 30 Mawrth 2011.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “gweithred adennill” (“recovery operation”)  yw unrhyw weithred sy'n cynnwys ailbrosesu, gwirio, glanhau, atgyweirio, compostio neu dreulio anaerobig a'i phrif ganlyniad yw bod gwastraff yn gallu ateb diben;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”)  yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;
 ystyr “y targedau” (“the targets”)  yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.
3 

(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau—
(a) pan fo'r gwastraff wedi mynd drwy weithred ailbrosesu; fel rhan o weithred adennill; a
(b) pan fo'r gwastraff yn cael ei ailbrosesu yn gyn nyrch, deunydd, neu sylwedd, p'un a yw hynny at ei ddiben gwreiddiol neu ddiben arall.
(2) Ond nid yw gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau os yw'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd nac ar gyfer gwaith ôllenwi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “gwaith ôl-lenwi” yw gwaith lle y mae gwastraff yn cael ei ddefnyddio at ddibenion adfer mewn mannau sydd wedi eu cloddio neu at ddibenion peirianneg mewn tirlunio.
4 

(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio at ddibenion y targedau—
(a) pan fo cynnyrch gwastraff neu gydran o gynnyrch gwastraff wedi cael eu gwirio, glanhau neu atgyweirio fel rhan o weithred adennill; a
(b) pan fo'r cynnyrch gwastraff neu gydran o'r cynnyrch gwastraff yn gallu cael eu hailddefnyddio at eu diben gwreiddiol.
5 

(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei gompostio at ddibenion y targedau—
(a) pan fo gwastraff bioddiraddadwy wedi bod drwy weithred adennill o gompostio neu dreulio anaerobig; a
(b) pan fo gwastraff wedi cael ei ailbrosesu yn gynnyrch, yn ddeunydd neu sylwedd sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel cyflyrydd pridd, gwrtaith neu gyfrwng tyfu.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “compostio” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses aerobig.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “treulio anaerobig” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses anaerobig.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011