
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.
2 
Daw adran 3 o'r Mesur i rym ar 4 Mawrth 2011.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2011