
1 

(1) Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
2 
£34,800 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
3 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 wedi ei ddirymu.
Ieuan Wyn Jones
Y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011