
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ionawr 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004.
2 
Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b) hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c) yn y mannau priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol;
 ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol;”;
(ch) hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
4 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
5 
Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—
(a) rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b) yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c) rheoliad 14(2)(ii).
6 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.
7 
Yn lle rheoliad 8 rhodder—“
8 
Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
8 
Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011 wedi eu dirymu.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2011