
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004.
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar 11 Chwefror 2011—
(a) adran 22 mewn perthynas â Chymru;
(b) adran 28(6) i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(c) adrannau 33 i 36 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y maent yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(ch) adran 38 i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(d) adran 39 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(dd) adran 41 mewn perthynas â Chymru.
3 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011—
(a) adran 27;
(b) adran 28(1) i (5);
(c) adran 28(6) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b);
(ch) adran 30(2) a (3);
(d) adran 32(4);
(dd) adran 38 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b).
4 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011 mewn perthynas â Chymru—
(a) adran 29;
(b) adran 30(1);
(c) adrannau 33 i 36 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(c);
(ch) adran 39 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(d);
(d) adran 49 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 6 a nodir ym mharagraffau (e) ac (f);
(dd) adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 7 a nodir ym mharagraffau (ff) ac (g);
(e) yn Atodlen 6, paragraff 7, hepgor adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;
(f) yn Atodlen 6, paragraff 8;
(ff) yn Atodlen 7, diddymu adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;
(g) yn Atodlen 7, diddymu yn adran 28(1) o Ddeddf 1998 Act y diffiniadau o “fees” a “publicly-funded institution”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2011