
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011 a daw i rym ar 11 Ionawr 2012.
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2011
YR ATODLEN
Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac eithrio'r canlynol—
(a) y darn cyfan o'r A4060 o'i chyffordd â chylchfan Abercannaid ar yr A470 i'w chyffordd â chylchfan Dowlais ar yr A465, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Pentre-bach, cylchfan Parc Busnes Triangle a chylchfan Mountain Hare;
(b) y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 320 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Abercynon ar yr A470 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 895 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Cefn Coed, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Abercannaid, cylchfan Rhyd-y-car a chylchfan Heol Abertawe;
(c) y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 351 o fetrau i'r de o'i chyffordd ag Upper High Street Cefn Coed ar yr A4054 i'r ffin â Sir Powys wrth Bont Llysiog; ac
(ch) y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth bwynt oddeutu 550 o fetrau i'r dwyrain o gylchfan Dowlais Top ar yr A465 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 13 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â Ffordd Merthyr ar y B4276, gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael a cherbytffordd gylchredol cylchfan Dowlais ar yr A465/A4060, cylchfan Dowlais Top ar yr A465 a chylchfan Cefn Coed.
