
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Adnoddau Dŵr 1991; a
(b) ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) o Ddeddf 1991 yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.
(2) Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;
(b) bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor; a
(c) bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor.
(3) Ni chaiff awdurdodiad ei roi i Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 154 o Ddeddf 1991, fel y'i cymhwysir gan baragraff (1), ond at y dibenion o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y canlynol—
(a) y Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno neu bolisïau o dan Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb honno;
(b) y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mewn perthynas ag unrhyw amcanion amgylcheddol; neu
(c) y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthyglau 2, 3 neu 4 o'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Yn yr erthygl hon—
(a) mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag “environmental objectives” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;
(b) ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt;
(c) ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr” (“the Water Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu ym maes polisi dŵr; a
(ch) ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt.
4 

(1) Mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 154(1);
(b) bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;
(c) bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—
(i) yn y man lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 154(1);
(ii) yn y man lle y maent yn ymddangos yn adran 154(2), (3) a (4); a
(iii) yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro yn adran 154(6); ac
(ch) mae i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.
(2) Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(1);
(b) bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(2)(a) a (6);
(c) bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;
(ch) bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor;
(d) bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor; ac
(dd) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn 39(6) o Ddeddf 2010.
5 

(1) Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 38 o Ddeddf 2010.
(2) Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010; a
(b) bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor.
(3) Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd gan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;
(b) bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);
(c) bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;
(ch) bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;
(d) bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;
(dd) bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor; ac
(e) bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991.
6 

(1) Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—
(i) lle y maent yn ymddangos yn adran 170(1); a
(ii) lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 170(3);
(b) bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—
(i) lle y maent yn ymddangos yn adran 170(2); a
(ii) lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 170(3);
(c) bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 39 o Ddeddf 2010; ac
(ch) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.
(2) Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(1);
(b) bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(2)(a) a (3)(c);
(c) bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;
(ch) bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor; a
(d) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.
(3) Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd o dan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;
(b) bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);
(c) bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;
(ch) bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;
(d) bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;
(dd) bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle “the Agency” ym mharagraffau 6(3)(b) ac 8;
(e) bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor;
(f) bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991; ac
(ff) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.
7 
Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriadau at y pwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.
8 
Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf;
(b) bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am yr eildro;
(c) bod y cyfeiriad at bwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 39 o Ddeddf 2010; ac
(ch) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2011