
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad o'r asesiad” (“assessment report”) yw adroddiad unigol, ysgrifenedig, sy'n cofnodi os yw asesiad iechyd meddwl wedi dynodi unrhyw wasanaethau a all wella neu rwystro dirywiad yn iechyd meddwl oedolyn yn unol ag adran 25 (diben asesu) o'r Mesur;
 ystyr “asesiad iechyd meddwl” (“mental health assessment”) yw dadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn at y dibenion a ddarperir yn adran 25 o'r Mesur;
 ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw'r cyfnod y caiff oedolyn wneud cais i asesiad iechyd meddwl gael ei wneud arno, yn dilyn cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ac
 ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person deunaw mlwydd oed neu hŵn na hynny sydd â hawl i asesiad iechyd meddwl o dan adran 22 (hawl i asesiad) o'r Mesur.
3 

(1) Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn ar y dyddiad y rhyddheir yr oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac y mae'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o dair blynedd o'r dyddiad hwnnw i ben.
(2) Ond os yw'r oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw fel a ddarperir yn rheoliad 6.
4 

(1) Mae copi o adroddiad o'r asesiad i'w ddarparu i oedolyn sydd wedi cael asesiad iechyd meddwl, heb fod yn hwyrach na deng niwrnod gwaith ar ôl cwblhau'r asesiad.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, darperir copi o adroddiad o'r asesiad ar y diwrnod pan fo'r canlynol yn digwydd—
(a) y traddodir ef drwy law i oedolyn; neu
(b) yr anfonwyd ef yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio at oedolyn ym man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw neu fan preswylio hysbys ddiwethaf yr oedolyn hwnnw.
5 

(1) Pan fo, at ddibenion Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur, unrhyw amheuaeth p'un ai os yw man preswylio arferol yr oedolyn yn dod o fewn ardal awdurdod lleol (“ardal awdurdod lleol A”), yna mae'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol A (“awdurdod lleol A”) yn gyfrifol am benderfynu o fewn pa ardal awdurdod lleol y mae'r oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio, yn unol â pharagraff (2).
(2) At ddibenion gwneud penderfyniad fel a ddarperir ym mharagraff (1)—
(a) tybir bod oedolyn fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd i awdurdod lleol A gan yr oedolyn hwnnw fel y cyfeiriad y mae fel arfer yn preswylio ynddo;
(b) os na roddir y fath gyfeiriad gan oedolyn tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo i awdurdod lleol A fel y cyfeiriad mwyaf diweddar ar ei gyfer;
(c) pan na ellir penderfynu man preswylio arferol oedolyn o dan is-baragraffau (a) neu (b) uchod, tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio yn yr ardal lle y mae'n bresennol.
(3) Hyd nes y gwneir penderfyniad ar fan preswylio arferol oedolyn o dan baragraff (1), tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol A.
(4) Ond pan fo'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol arall (“ardal awdurdod lleol B”) yn cytuno i weithredu fel y partneriaid iechyd meddwl lleol ar ran oedolyn, yna tybir bod yr oedolyn hwnnw fel arfer yn preswylio o fewn ardal awdurdod lleol B.
6 
Pan fo oedolyn wedi ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn dwy flynedd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna bydd y cyfnod rhyddhau perthnasol ar gyfer yr oedolyn hwnnw yn gyfnod o amser a fydd yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac yn gorffen pan ddaw tair blynedd i ben ar ôl dyddiad rhyddhau'r oedolyn hwnnw.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011