
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Gwaherddir gwerthu tybaco o beiriant awtomatig.
(2) Bydd y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy'n ymwneud â rheoli'r fangre honno, yn atebol am doriad o baragraff (1).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llong, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011