
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 8 Tachwedd 2011.
2 
Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn lle “rheolau marchnata'r Gymuned”, ym mhob man (gan gynnwys pennawd rheoliad 4) lle y mae'n digwydd rhodder “rheolau marchnata'r UE”.
4 
Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder—“
 ystyr “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011” (“Commission Implementing Regulation 543/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle'r diffiniad o “rheolau marchnata'r UE” (fel y'i diwygiwyd gan reoliad 3), rhodder—“
 ystyr “rheolau marchnata'r UE” (“EU marketing rules”) yw'r safon farchnata gyffredinol a'r safonau marchnata penodol sy'n cwmpasu ffrwythau a llysiau ffres a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007 ac yn Nheitl II o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(ii) yn lle'r diffiniad o “safonau marchnata cyffredinol”, rhodder—“
 ystyr “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yw gofynion Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007 fel y'u rhoddir yn Erthygl 3(1) a Rhan A o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(iii) yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol”, yn lle “Erthygl 2a(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007” rhodder “Erthygl 3(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
5 
Yn rheoliad 3(1), yn lle “Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Erthygl 9(1)(b) o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
6 
Yn rheoliad 4(3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
7 
Yn rheoliad 8(2), yn lle “Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Atodiad V i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
8 
Yn lle'r Atodlen, rhodder yr Atodlen ganlynol.“
YR ATODLEN
Rheoliad 4(3)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Darpariaeth berthnasol Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 Darpariaeth Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1 Y pwnc
Erthygl 5(1) Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 5(2) i (4), Erthygl 6, Erthygl 7 Gofyniad cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth
Erthygl 5(2) Atodiad I, Erthygl 5(1), (3) a (4), Erthygl 7 Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi swmpus a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo
Erthygl 5(3) Atodiad I, Erthygl 5(1) a (4), Erthygl 7 Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn achos contractau o bell sydd i fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant
Erthygl 5(4) Atodiad I, Erthygl 5(1) i (3), Erthygl 7 Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwy
Erthygl 6 Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 7 Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn y cyfnod manwerthu
Erthygl 7(1) Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 6, Erthygl 7(2) a (3) Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau
Erthygl 10(6) Erthygl 10(1) i (5) Gofyniad i fasnachwyr ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod-wladwriaethau yn angenrheidiol i'r gronfa ddata
Erthygl 11(4) Erthygl 11(1) i (3), Erthygl 12, Erthygl 14 ac Atodiad III, Erthygl 15 Gofyniad i fasnachwyr ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio
Erthygl 17(3), yr is-baragraff olaf Erthygl 10, Erthygl 17(1), (2) a gweddill (3), Atodiad V Gofyniad i fasnachwyr ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad”.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011