
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 18 Hydref 2011 yw “y dyddiad cychwyn cyntaf” (“the first commencement date”);
 2 Rhagfyr 2011 yw “yr ail ddyddiad cychwyn” (“the second commencement date”); ac
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
2 
Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf.

(a) Adran 35 (Safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(b) Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996;
(c) Adran 37 (Ymgynghori ynghylch safonau a chanllawiau);
(ch) Adran 39 (Canllawiau ynghylch cwynion); a
(d) Adran 40 (Ymgynghori).


(dd) Y Bennod gyfan.


(e) Y Bennod gyfan, ac eithrio adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).


(f) Adrannau 50 a 51 (Pwerau gorfodi);
(ff) Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(g) Adrannau 53 i 56 (Hysbysiad gorfodi — darpariaethau pellach);
(ng) Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(h) Adrannau 58 i 63 (Cosb — darpariaethau pellach);
(i) Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(j) Adrannau 65 i 71 (Iawndal — darpariaethau pellach);
(l) Adran 72 (Tendr rheoli) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(ll) Adrannau 73 i 75 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach);
(m) Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996; ac
(n) Adrannau 77 i 82 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach).


(o) Adrannau 83 i 87 (Penodi rheolwr dros dro ar Ansolfedd, Symud swyddogion o swydd, Penodi swyddogion newydd, Elusennau sydd “wedi cael cymorth cyhoeddus” a Mân ddiffiniadau); a
(p) Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.


(ph) Paragraffau 1 i 3; ac
(r) Paragraffau 9 i 20.

3 
Mae'r darpariaethau canlynol yn Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn.

(a) Adran 35 (Safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill;
(b) Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill; ac
(c) Adran 38 (Gwybodaeth o ran lefelau perfformiad).


(ch) Adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).


(d) Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) at y dibenion sy'n weddill;
(dd) Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) at y dibenion sy'n weddill;
(e) Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) at y dibenion sy'n weddill;
(f) Adran 72 (Tendr rheoli) at y dibenion sy'n weddill; ac
(ff) Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) at y dibenion sy'n weddill.


(g) Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.


(ng) Paragraffau 4 i 8.

Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
17 Hydref 2011