
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Hydref 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “cylchlythyr iaith gyntaf” (“first language circular”) yw'r cylchlythyr “Casglu a chofnodi data am iaith gyntaf disgyblion” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan y rhif cylchlythyr 001/2011;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “blwyddyn ysgol” mewnosoder—“
 ystyr “cod iaith” (“language code”) yw'r prif godau ac is-godau ar gyfer y categorïau iaith safonol a bennir yn Atodiad A i'r cylchlythyr iaith gyntaf;”;
(c) ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”; ac
(ch) ar ôl y diffiniad o “Rhif unigryw disgybl” mewnosoder —“
 ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw'r cyfuniad penodol o lythrennau a rhifau a ddyrannwyd i'r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;”.
(3) Yn rheoliad 5—
(a) ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder—“
(d) yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau;
(dd) unrhyw gorff a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf Addysg 1997 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol;
(e) y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau; ac
(f) unrhyw gorff a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae Rhan 7 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo.”.
(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 2—
(a) ar ddiwedd paragraff 1(g) mewnosoder—“
(ng) y rhif unigryw dysgwr, os yw'n hysbys.”; a
(b) ar ddiwedd paragraff 16 mewnosoder—“
17 
Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol, datganiad pa un a yw lefel datblygiad y disgybl hwnnw mewn Saesneg o fewn—
(a) categori A: newydd i'r Saesneg;
(b) categori B: caffael cynnar;
(c) categori C: datblygu cymhwysedd;
(ch) categori CH: cymwys; neu
(d) categori D: rhugl.
18 
Y cod iaith sy'n disgrifio orau iaith gyntaf y disgybl.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2011