
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 5) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
7 Chwefror 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym —
(a) adran 113(2), (3) a (4) (cwynion am ofal iechyd); a
(b) adran 115(3) (rheoliadau cwynion: atodol).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
2 Chwefror 2011