1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011;
 ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“Fees Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;
 ystyr “Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd” (“European University Institute Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009;
 ystyr “Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol” (“Qualifying Courses and Persons Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011; ac
 ystyr “Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd” (“European Institutions Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011.
3 
Mae Rheoliadau 2011 yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.
4 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
5 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—“
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
6 
Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 ac 8.
7 

8 

(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y canlynol;
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
9 
Mae Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 10 ac 11.
10 
Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
11 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—“
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,”.
12 
Mae Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 i 15.
13 
Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
14 
Yn Rhan 1 o Atodlen 1, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “aelod o deulu” (“family member”) yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—“
(ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—(aa) o dan 21 oed; neu(bb) yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.
15 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—“
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
16 
Mae'r Rheoliadau Ffioedd yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 17 i 19.
17 
Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “aelod o'r teulu” (“family member”), yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—“
(ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—(aa) o dan 21 oed; neu(bb) yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.
18 
Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
19 
Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—“
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.
20 
Mae Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 21 a 22.
21 
Ym mharagraff 1(1) o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
22 
Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—“
(b) a oedd ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2011