
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r rheoliadau yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “absenoldeb heb ei awdurdodi” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 ac mae “absenoldeb awdurdodedig” (“authorised absence”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
 ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r cyfryw drefniadau asesu ag a bennir:
(i) yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Diddymu Trefniadau Asesu'r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011; a
(ii) gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002 ac mae'r term “lefel” (“level”) i'w ddehongli'n unol â darpariaethau'r cyfryw orchmynion;
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw—
(i) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, yr awdurdod hwnnw; a
(ii) mewn perthynas ag ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol, yr awdurdod lleol y mae'r ysgol wedi ei lleoli yn ei ardal;
 ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru i'w chyhoeddi ynddi gan Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, gan awdurdodau lleol;
 mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i'w ddehongli'n unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;
 “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr sy'n cael ei chynnal a'i chyhoeddi gan Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn unol ag adran 148 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
 ystyr “rhif cymhwyster” (“qualification number”) yw'r rhif cyfeirnod unigryw a ddyrennir i gymwysterau ar y gofrestr i adnabod y cymhwyster hwnnw;
 ystyr “rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael ei ddyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;
 mae “sesiwn ysgol” (“school session”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
(i) unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol, neu
(ii) unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty,ond nid yw'n cynnwys unrhyw ysgol feithrin; ac
 ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
(a) mae cyfeiriadau at ddisgyblion o oedran penodol yn gyfeiriadau at ddisgyblion a oedd yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y trydydd dydd Iau yn Ionawr ym mlwyddyn adrodd yr ysgol ac a gyrhaeddodd yr oedran hwnnw yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben, naill ai—
(i) ar 31 Awst cyn dechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, pan fo blwyddyn adrodd yr ysgol yn cychwyn ar ôl y dyddiad hwnnw, neu
(ii) ar 31 Awst sy'n dod ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, pan fo blwyddyn adrodd yr ysgol yn dechrau ar neu cyn y dyddiad hwnnw, ac;
(b) mae cyfeiriadau at gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd y rhoddwyd enwau disgyblion yn yr ysgol ar eu cyfer yn cynnwys cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ac y rhoddwyd enwau disgyblion ar eu cyfer ac eithrio yn unol ag adran 402(1) o Ddeddf 1996; ac
(c) mae cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn gyfeiriadau at y cyfnodau a nodir yn adran 103(1) o Ddeddf 2002.
(3) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol neu'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo ar ffurf electronig neu ar ffurf y gall peiriant ei darllen, rhaid bodloni'r gofyniad hwnnw drwy drosglwyddo'r wybodaeth drwy gyfrwng gwefan ryngrwyd ddiogel a ddarperir i'r pwrpas hwnnw gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd ac y rhoddwyd enw disgybl ar ei gyfer yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol i'w drin fel rhoi enw disgybl ar gyfer cymhwyster o'r fath yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol.
3 
Dim ond i'r graddau bod yr wybodaeth ar gael iddynt mewn da bryd iddi fod yn rhesymol ymarferol iddynt sicrhau bod yr wybodaeth ar gael, yn cael ei darparu neu'n cael ei chyhoeddi cyn yr achlysur olaf erbyn pryd y mae'n ofynnol bod yr wybodaeth ar gael, yn cael ei darparu neu'n cael ei chyhoeddi, yn ôl y digwydd, y mae dyletswyddau cyrff llywodraethu, awdurdodau a pherchenogion i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, yn cael ei darparu, neu'n cael ei chyhoeddi yn gymwys.
RHAN 2
4 
Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir sicrhau, bob blwyddyn, bod gwybodaeth ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y materion a grybwyllir yn Atodlenni 2 a 3 er mwyn galluogi'r corff llywodraethu i gydymffurfio â'i rwymedigaethau mewn perthynas â'r materion hynny.
RHAN 3
5 
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a chanddi, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, yr ail gyfnod allweddol neu'r trydydd cyfnod allweddol sy'n gymwys ar gyfer asesiadau statudol, ddarparu, bob blwyddyn, i'r awdurdod, yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau statudol ac y cyfeirir ati yn Atodlen 2, ar ffurf electronig neu ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, os yw hynny'n rhesymol ymarferol.
6 
Heb fod yn hwy nag 20 niwrnod ysgol cyn diwedd tymor yr haf, rhaid i'r awdurdod ddarparu, bob blwyddyn, i Weinidogion Cymru, yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol ac y cyfeirir ati yn Atodlen 2, mewn perthynas â'r holl ysgolion y mae'n eu cynnal ac y mae ganddynt ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol ac sy'n gymwys ar gyfer asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.
7 
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a pherchennog pob ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol a chanddi ddisgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw fanylion ag y gofynnant amdanynt ynghylch cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ac y rhoddwyd enwau disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol ar eu cyfer, a'r cyfryw wybodaeth arall y cyfeirir ati—
(a) yn achos ysgol sy'n darparu gwybodaeth mewn cysylltiad â disgyblion 15 oed, yn Rhan 1 o Atodlen 3; neu
(b) yn achos ysgol sy'n darparu gwybodaeth mewn cysylltiad â disgyblion 16, 17 neu 18 oed, yn Rhan 2 o Atodlen 3;pan ddaw cais ysgrifenedig am y cyfryw wybodaeth gan Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir ganddynt yn y cyfryw gais.
8 
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a phob ysgol feithrin a gynhelir a pherchennog pob ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol ddarparu i'r awdurdod yr wybodaeth ganlynol am flwyddyn adrodd yr ysgol ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod am yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir ganddo yn y cais hwnnw:
(a) cyfanswm nifer y sesiynau ysgol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol yr oedd y disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn yr ysgol;
(b) cyfanswm nifer y sesiynau hynny yr oedd y disgybl yn bresennol ynddynt ym mlwyddyn adrodd yr ysgol; ac
(c) cyfanswm nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau heb eu hawdurdodi ar gyfer y disgybl.
Jeff Cuthbert
Y Dirprwy Weinidog Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Awst 2011
ATODLEN 1
Rheoliad 1



Y Rheoliadau a ddirymwyd Cyfeirnodau Rhychwant y dirymu
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 O.S. 2004/1025(Cy.122) Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 O.S. 2004/2914 (Cy.253) Rheoliad 4
Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 O.S. 2005/1396 (Cy.110) Rheoliad 4
Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 O.S. 2005/3239 (Cy.244) Paragraff 12 o Atodlen 2
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007 O.S. 2007/3564 (Cy.314) Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 O.S. 2010/2431 (Cy.209) Rheoliad 6

ATODLEN 2
Rheoliad 4

Mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol dau a chyfnod allweddol tri, canlyniadau asesiadau statudol y disgybl ac, os nad yw rhai neu'r cyfan o'r canlyniadau hynny ar gael, gwybodaeth ynghylch a gafodd y disgybl ei esemptio rhag yr asesiadau o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu ynghylch a yw canlyniadau asesiadau'r disgybl heb fod ar gael am resymau ac eithrio esemptio'r disgybl o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002.

ATODLEN 3
Rheoliad 4
RHAN 1
1 
Nifer y disgyblion cofrestredig sy'n 15 oed.
2 
Yn achos pob disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 1 ac a roddwyd ei enw ar gyfer un cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu fwy ym mlwyddyn adrodd yr ysgol neu mewn unrhyw flynyddoedd ysgol cyn y flwyddyn honno, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf, ei enw canol neu ei enwau canol (os yw'n gymwys) ac, os yw'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ffurf electronig neu ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, rhif unigryw disgybl y disgybl.
3 
Yn achos pob disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 ac sydd wedi cyflawni, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol neu mewn unrhyw flynyddoedd ysgol cyn y flwyddyn honno, unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd, y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd—
(a) y corff dyfarnu;
(b) enw'r pwnc;
(c) y math a'r lefel;
(ch) y canlyniad;
(d) y dyddiad dyfarnu; ac
(dd) y rhif cymhwyster.
RHAN 2
4 
Nifer y disgyblion cofrestredig sy'n 16, 17 neu'n 18 oed.
5 
Yn achos pob disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 4, yr wybodaeth ganlynol: rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf, ei enw canol neu ei enwau canol (os yw'n gymwys) ac, os yw'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ffurf electronig neu ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, rhif unigryw disgybl y disgybl.
6 
Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 4 ac sydd wedi cyflawni ym mlwyddyn adrodd yr ysgol neu mewn unrhyw flynyddoedd ysgol cyn y flwyddyn honno, unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd, y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd—
(a) y corff dyfarnu;
(b) enw'r pwnc;
(c) y math a'r lefel;
(ch) y canlyniad;
(d) y dyddiad dyfarnu; ac
(dd) y rhif cymhwyster.