
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 14) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
2 

(1) Y diwrnod penodedig yw 1 Medi 2011.
(2) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2002 i rym ar y diwrnod penodedig—
(a) adran 204;
(b) adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 22 a bennir isod; ac
(c) yn Atodlen 22, diddymu pennod I o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1997.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011