
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “absenoldeb anawdurdodedig” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 a rhaid dehongli “absenoldeb awdurdodedig” (“authorised absence”) yn unol â hynny;
 ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith bob blwyddyn ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 2002;
 ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol pryd y mae'r corff llywodraethu yn cyhoeddi'r wybodaeth;
 ystyr “categori iaith” (“language category”) yw'r categori a ddefnyddir i ddiffinio math a rhychwant yr addysg cyfrwng Gymraeg a ddarperir gan ysgol ac a osodir yn y ddogfen wybodaeth o'r enw “Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru fel Cylchlythyr 023/2007;
 ystyr “Crynodeb Perfformiad Ysgol Uwchradd” (“Summary of Secondary School Performance”) yw crynodeb o berfformiad ysgol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi;
 ystyr “cyfarfod rhieni blynyddol” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 33 o Ddeddf 2002;
 ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o'r cyfnodau a osodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;
 mae “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;
 ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “DEWi” (“DEWi”) yw cronfa ddata menter cyfnewid data Cymru a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ; ac
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996.
3 
Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen 2.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu yw penderfynu ym mha iaith neu ieithoedd y mae adroddiad y llywodraethwyr i'w lunio, ac ar ba ffurf neu'r ffurfiau y mae i'w lunio ynddi neu ynddynt.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i'w lunio ynddi.
5 

(1) Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod—
(a) rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person cyflogedig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o adroddiad y llywodraethwyr;
(b) copïau o'r adroddiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl) yn yr ysgol; ac
(c) pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i rieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1)(a), i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig na'r gofyniad ym mharagraff (1)(c) yn gymwys os—
(a) yw'r corff llywodraethu yn cymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn ddi-dâl) gopi o'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 ac 11 o Atodlen 2 ac yn hysbysu'r rhieni hynny ar yr un pryd am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 6; a
(b) pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod gwybodaeth a hysbysiad yn cael eu rhoi i'r rhieni hynny nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
6 
Pan (yn rhinwedd rheoliad 5(2)) nad yw paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'i adroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011
ATODLEN 1
Rheoliad 1



Y Rheoliadau a ddirymwyd Y cyfeirnodau Rhychwant y dirymiad
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 O.S.2001/1110 (Cy.54) Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002 O.S. 2002/1401 (Cy.140) Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004 O.S. 2004/1735 (Cy.178) Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 O.S. 2010/2431 (Cy.209) Rheoliad 5

ATODLEN 2
Rheoliad 3
1 
Pan fo rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol—
(a) manylion y dyddiad, amser a lle ar gyfer y cyfarfod rhieni blynyddol nesaf a'i agenda;
(b) rhywbeth sy'n nodi mai pwrpas y cyfarfod hwnnw fydd trafod adroddiad y llywodraethwyr yn ogystal â sut y mae'r corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod lleol wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol; ac
(c) adroddiad ar yr ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod rhieni blynyddol blaenorol (pan oedd rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal y cyfryw gyfarfod).
2 
Manylion canlynol aelodau'r corff llywodraethu a'i glerc—
(a) enw pob llywodraethwr gan nodi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau yn Rhan 2 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo a, phan fo'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, ei fod ef yn llywodraethwr ex officio;
(b) yn achos llywodraethwr penodedig, y person y penodwyd ef ganddo;
(c) mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad pryd y daw tymor ei swydd i ben; ac
(ch) enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'i glerc.
3 
Unrhyw wybodaeth sydd ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y trefniadau ar gyfer yr etholiad nesaf o rieni-lywodraethwyr.
4 
Datganiad ariannol—
(a) sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y darparwyd copi ohono i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;
(b) sy'n nodi, mewn termau cyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y trefnodd yr awdurdod iddo fod ar gael i'r corff llywodraethu (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan yr adroddiad;
(c) sy'n rhoi manylion am y defnydd o unrhyw roddion a roddwyd i'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac
(ch) sy'n nodi cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau o'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.
5 
Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi.
6 
Yn achos ysgol sydd â disgyblion cofrestredig 15 oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd mewn perthynas â'r ysgol.
7 

(1) Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol wedi'u mynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
(2) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
8 
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â—
(a) disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu gyflogaeth neu hyfforddiant y mae disgyblion yn ymgymryd ag ef ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol; a
(b) absenoldeb awdurdodedig disgyblion ac absenoldeb anawdurdodedig disgyblion,y mae'n ofynnol ei chyhoeddi ym mhrosbectws yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.
9 
Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).
10 
Y cyfryw wybodaeth am unrhyw dargedau—
(a) ar gyfer gwelliannau a osodir gan y corff llywodraethu o ran perfformiad disgyblion yn yr ysgol fel y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997; a
(b) i ostwng lefel yr absenoldebau anawdurdodedig o ran disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol fel y'u gosodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998.
11 
Mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr, crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.
12 
Crynodeb o unrhyw adolygiad a wnaed gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddo yn sgil y cyfryw adolygiad.
13 
Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol a gwyliau hanner tymor, ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.
14 

(1) Crynodeb o unrhyw newidiadau i wybodaeth sydd (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) ym mhrosbectws yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei lunio.
(2) Pan fo rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn prosbectysau gwahanol, cymerir bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob prosbectws o'r fath.
15 
Datganiad ar y cwricwlwm a threfniadaeth addysg a dulliau dysgu yn yr ysgol gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau arbennig o ddisgyblion, gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996.
16 
Y categori iaith sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o'r ysgol.
17 
Manylion am ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn enwedig—
(a) defnydd o'r Gymraeg fel yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen a phob un o'r cyfnodau allweddol i addysgu unrhyw bwnc a'r graddau, os o gwbl, y mae addysg amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;
(b) y graddau, os o gwbl, y mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol;
(c) unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir addysg ynddi; ac
(ch) disgrifiad cryno o'r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad yn rhychwant yr addysg yn Gymraeg i ddisgyblion—
(i) yn ystod y cyfnod y maent yn gofrestredig yn yr ysgol; a
(ii) wrth drosglwyddo o'r ysgol, os ysgol gynradd yw'r ysgol honno, i ysgol uwchradd.
18 
Datganiad cryno ar y cyfleusterau toiled a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol a'r trefniadau a wnaed i lanhau'r cyfleusterau toiled hynny.