
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(1), ar ôl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—“
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;”; a
(b) yn erthygl 4(3) yn lle “na phythefnos” rhodder “nag ugain o ddiwrnodau gwaith”.
3 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(1), ar ôl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—“
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;”; a
(b) yn erthygl 4(2), yn lle “na phythefnos”, rhodder “nag ugain o ddiwrnodau gwaith”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011