
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Prynu Buddiannau Ecwitïol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 19 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Caiff awdurdod tai (“y landlord”) brynu, gyda chytundeb y tenant, fuddiant ecwitïol mewn fflat pan fo'r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Y gofynion a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yw—
(a) bod les hir y fflat wedi cael ei rhoi neu ei haseinio gan y landlord neu awdurdod tai arall;
(b) bod y tenant yn atebol o dan delerau'r les i dalu ffioedd gwasanaeth i'r landlord mewn cysylltiad ag atgyweiriadau neu gyfraniadau at welliant (p'un ai i'r fflat, yr adeilad lle y mae neu unrhyw adeilad arall neu dir arall); ac
(c) mai diben y prynu yw cynorthwyo'r tenant i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r taliadau ffioedd gwasanaeth.
3 
Caiff y landlord brynu o dan reoliad 2 er gwaethaf y ffaith bod y les o dan sylw wedi ei rhoi neu ei haseinio, neu fod y ffi wasanaeth o dan sylw wedi dod yn daladwy, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
4 

(1) Y modd y mae'n rhaid i gost y buddiant ecwitïol a brynwyd (y “pris prynu”) gael ei thalu yw bod y landlord yn lleihau neu (yn ôl y digwydd) yn canslo'r ffi wasanaeth sy'n daladwy i'r landlord gan y tenant i'r graddau y mae'n cyfateb i'r swm sydd o dan sylw, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Pan fo'r tenant, yn unol â theler y cytunwyd arno yn y modd a grybwyllir yn rheoliad 5, yn atebol am dalu treuliau gweinyddol y landlord, caniateir i'r pris prynu, yn ôl dewis y landlord, gael ei ostwng yn ôl swm y treuliau hynny.
5 
Caniateir iddo fod yn un o delerau'r cytundeb ar gyfer prynu o dan reoliad 2 fod y tenant yn atebol am dreuliau gweinyddol y landlord mewn cysylltiad â'r prynu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
26 Gorffennaf 2011