
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 450D o Ddeddf Tai 1985.
3 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 19 Awst 2011:
(1) adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth); a
(2) adran 309 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.
25 Gorffennaf 2011