
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 3 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.
2 

(1) Yn rheoliad 1(2) yn lle “1 Hydref 2011” rhodder “1 Ebrill 2012”.
(2) Yn lle rheoliad 52(5) rhodder: “Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, cyn 1 Ebrill 2012 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2011