
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 2 Awst 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y nodyn esboniadol i reoliad 7 o'r prif Reoliadau, yn y testun Cymraeg, yn lle “gweithredu ar ran person” rhodder “bod yn ddirprwywr i berson”.
3 

(1) Mae rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (pwerau a ragnodir ar gyfer lladmeryddion) wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y testun Cymraeg—
(a) yn y pennawd, yn lle “lladmeryddion” rhodder “dirprwywyr”, a
(b) yn lle “lladmerydd” rhodder “dirprwywr” .
(3) Yn y testun Saesneg yn lle “lladmerydd” rhodder “dirprwywr”.
4 

(1) Mae rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2)(a)(iii), yn y testun Cymraeg, yn lle “ladmerydd” rhodder “ddirprwywr”.
(3) Ym mharagraff (4)(a), yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989”.
5 
Yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989), ym mharagraff (2) yn y testun Cymraeg—
(a) yn lle “P” pan fo'n ymddangos am y tro cyntaf, rhodder “y person rhagnodedig”, a
(b) yn lle “P” pan fo'n ymddangos am yr eildro, rhodder “'r person rhagnodedig”.
6 
Yn rheoliad 11 o'r prif Reoliadau (swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), ym mharagraff (6), yn y testun Cymraeg—
(a) mewnosoder “y” rhwng “wneud” a “taliad”, a
(b) yn lle “uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig” rhodder “y cyfeirir ato ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â'r person sy'n”.
7 

(1) Mae rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989), wedi cael ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2)(c), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig ac” rhwng “person” a “sy'n”.
(3) Ym mharagraff (5), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “amodau” rhwng “yr” ac “y cyfeirir”.
8 
Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), ym mharagraff (3)(c), yn y testun Cymraeg, mewnosoder “byw ar yr un aelwyd â P ac sy'n” rhwng “person sy'n” a “dwyn”.
9 

(1) Mae rheoliad 17 o'r prif Reoliadau (adolygu) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2), yn y testun Cymraeg—
(a) yn lle “nad yw” rhodder “bod”, a
(b) yn lle “o” rhodder “o'r” rhwng “adran 57(5A)” a “Ddeddf honno”.
10 

(1) Mae rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001), wedi ei ddiwygio yn unol â'r paragraff canlynol o'r rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (6), yn y testun Cymraeg—
(a) mewnosoder “uniongyrchol” rhwng “daliadau” ac “a wneir”,
(b) yn is-baragraff (a), mewnosoder “buddiolwr” rhwng “os yw'r” ac “yn berson”, ac
(c) yn is-baragraff (c), hepgorer “is met”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2011