
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Mehefin 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Pan ofynnir iddynt wneud hynny gan Brif Weinidog Cymru rhaid i Weinidogion Cymru gynnull panel dethol at ddibenion paragraff 7(2) o Atodlen 1 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i banel dethol gael ei ffurfio gan y canlynol—
(a) aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(b) person achrededig gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i weithredu fel asesydd penodi annibynnol;
(c) person y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn meddu ar brofiad perthnasol; ac
(ch) Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a enwebwyd gan bwyllgor perthnasol.
(3) Pan fo pwyllgor perthnasol naill ai:
(a) yn gwrthod enwebu; neu
(b) yn methu ag enwebu o fewn amser rhesymol,
nid yw paragraff (2)(ch) o'r rheoliad hwn yn gymwys.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “profiad perthnasol” (“relevant experience”) yw profiad o hybu defnydd o'r Gymraeg a/neu iaith arall; ac
 ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr estynnir gwahoddiad iddo gan Weinidogion Cymru i enwebu.
3 
Mae person sy'n dal neu wedi dal swydd Comisiynydd neu Ddirprwy Gomisiynydd wedi ei anghymhwyso rhag eistedd ar banel dethol.
4 
Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus dyddiedig Awst 2009.
5 

(1) Wrth gyf-weld ag ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, rhaid i banel dethol asesu gwybodaeth pob ymgeisydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi.
(2) Rhaid i argymhellion y mae panel dethol yn eu rhoi i Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â'r penodiad gynnwys asesiad y panel o wybodaeth pob ymgeisydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi.
(3) Cyn penodi person yn Gomisiynydd rhaid bod Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o'r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2011