
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011 a daw i rym ar 1 Awst 2011.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac
 ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”).
3 
Ar 1 Awst 2011 mae pob un o'r Hen Gorfforaethau wedi eu diddymu ac mae eu holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan yr Hen Gorfforaethau yn union cyn 1 Awst 2011 fel petai cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy'n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2011;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at unrhyw un o'r Hen Gorfforaethau sy'n cyflogi'r person yn union cyn 1 Awst 2011; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2011