
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.
2 
Mae adran 20 (pwerau mewn perthynas â diddymu ac ailddeddfu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) o Fesur 2009 i ddod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Mehefin 2011