
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na chânt fod yn denantiaethau sicr) yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “£25,000” rhodder “£100,000”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.
2 Mehefin 2011