
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002;
 ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.
3 

(1) Mae'r prif Reoliadau wedi eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 “cymhwyster angenrheidiol” (“required qualification”) yw cymhwyster a gynhwysir mewn rhestr a gedwir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;”.
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (3)(c) rhodder y canlynol—“
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn mewn perthynas â'r materion perthnasol a bennir ym mharagraff (4).”;
(b) ailrifer y ddarpariaeth bresennol ym mharagraff (4) a (5) yn baragraff (5) a (6) yn y drefn honno;
(c) ar ôl paragraff (3) mewnosoder y canlynol—“
(4) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)—
(a) pan fo'r unigolyn yn rheoli neu'n bwriadu rheoli'r cartref gofal—
(i) ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii) pan fo paragraff (5) yn gymwys —(aa) mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2, a(bb) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr o oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);
(b) pan na fo'r unigolyn yn rheoli nac yn bwriadu rheoli'r cartref gofal —
(i) ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2;
(ii) pan fo paragraff (5) yn gymwys—(aa) mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 3 i 5 a 6 o Atodlen 2, a(bb) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr o oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”.
(4) Yn lle paragraff (3) o reoliad 8 (penodi rheolwr), rhodder—“
(3) Os yw'r darparydd cofrestredig yn bwriadu rheoli'r cartref gofal, rhaid i'r unigolyn hwnnw—
(a) cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig); a
(b) hysbysu swyddfa briodol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar unwaith am y dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i ddechrau.”.
(5) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (b)(ii), yn lle “medrau a'r profiad” rhodder “cymwysterau, y medrau a'r profiad”, a
(ii) yn is-baragraff (c), yn lle “paragraff (3)” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “paragraff (7)”;
(b) ailrifer y ddarpariaeth bresennol ym mharagraff (3) yn baragraff (7);
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae cyfeiriad at gymwysterau, medrau a phrofiad yn cynnwys gofyniad bod rhaid i'r person feddu ar gymhwyster angenrheidiol.
(4) Pan fo person, nad yw'n dal cymhwyster angenrheidiol, wedi ei benodi'n rheolwr cartref gofal cyn 1 Mehefin 2011, nid yw'r person hwnnw'n ffit i reoli cartref gofal onid yw'n ennill cymhwyster angenrheidiol heb fod yn hwyrach na—
(a) 1 Hydref 2011; neu
(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (3) neu (4) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau neu fedrau eraill neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(b).
(6) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr cartref gofal gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na–
(a) 1 Hydref 2011; neu
(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.”.
(6) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) ym mharagraff (2)(ch)(i), yn lle “1 i 6” rhodder “1 i 5 a 6”;
(b) ym mharagraff (2)(ch)(ii), yn lle “1 a 3 i 6” rhodder “1, 3 i 5 a 6”;
(c) ym mharagraff (5)(a) yn lle “3 i 6”, rhodder “3 i 5 a 6”.
(7) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi gofal neu'n gweithio ynddo)—
(a) ym mharagraff 5, ar ôl “perthnasol” mewnosoder “neu angenrheidiol”;
(b) ar ôl paragraff 5, mewnosoder—“
(5A) Pan fo'n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol am gofrestriad gyda Chyngor Gofal Cymru.”.
4 

(1) Mae'r Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w darparu mewn cais am gofrestriad fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth am y ceisydd)—
(a) ar ôl paragraff 1(b) mewnosoder—“
(ba) where the establishment is a care home, whether the applicant is registered with the Care Council for Wales and, if so, details of his or her registration;”;
(b) ar ôl paragraff 2(c), mewnosoder—“
(ca) where the establishment is a care home, whether the responsible individual is registered with the Care Council for Wales and, if so, details of his or her registration;”.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i'w darparu mewn cais am gofrestriad fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth), ar ôl paragraff 2A, mewnosoder—“
(2B) Where the establishment is a care home, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011