
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio) 2011 a daw i rym ar 15 Chwefror 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Gwynedd”.
Rosemary Thomas
Y Prif Gynllunydd / Dirprwy Gyfarwyddwr O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2011