
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010 a deuant i rym y diwrnod ar ôl eu gwneud.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “coler electronig” (“electronic collar”) yw coler a luniwyd i roi sioc drydan; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Gwaherddir unrhyw berson rhag—
(a) gosod coler electronig ar gi neu gath;
(b) peri bod coler electronig yn cael ei gosod ar gi neu gath; nac
(c) bod yn gyfrifol am gi neu gath y mae coler electronig wedi'i gosod arnynt.
3 
Mae person sy'n torri unrhyw un neu rai o'r gwaharddiadau yn rheoliad 2 yn cyflawni tramgwydd ac, ar gollfarn ddiannod, yn agored—
(a) i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;
(b) i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu
(c) i'r ddeubeth.
4 
Mae tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin fel tramgwydd perthnasol at ddibenion adran 23 o'r Ddeddf (mynd i mewn a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â thramgwyddau).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2010