
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) 2010.
(2) At unrhyw ddiben a bennir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y Gorchymyn.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, a'r diwrnod hwnnw yw'r diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyron “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”),“Map C” (“Map C”), “Map D” (“Map D”), “Map E” (“Map E”), “Map F” (“Map F”), “Map G” (“Map G”), “Map H” (“Map H”), “Map I” (“Map I”), “Map J” (“Map J”), “Map K” (“Map K”), “Map L” (“Map L”), “Map M” (“Map M”) a “Map N” (“Map N”) yw'r mapiau a farciwyd, yn eu trefn, fel mapiau A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M ac N o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) 2010, ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976; acos dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Gwneir newidiadau yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
4 
Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward Trecenydd o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Penyrheol.
5 
Mae'r rhan o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn a ddangosir â llinellau ar Fap B—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Caerffili;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cwrt Rawlins o gymuned Caerffili; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol St. Martins.
6 
Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap C bellach yn ffurfio ward Cwrt Rawlins, a newidir ward Watford yn gyflin â ffin newydd y ward cymunedol.
7 
Yng nghymuned Caerffili, nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward y Castell yw 2, dros ward Cwrt Rawlins yw 2, a thros ward Watford yw 1.
8 
Yng nghymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward Penyrheol yw 4.
9 
Mae'r rhan o gymuned y Fan a ddangosir â llinellau ar Fap D—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Caerffili;
(b) yn ffurfio rhan o ward Tonyfelin; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Morgan Jones.
10 
Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a) yn cael ei throsglwyddo o ward Twyn; a
(b) yn ffurfio rhan o ward Tonyfelin.
11 
Mae'r rhan o gymuned Llanbradach a Phwll-y-Pant a ddangosir â llinellau ar Fap E—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn;
(b) yn ffurfio rhan o ward Energlyn; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Penyrheol.
12 
Mae'r rhan o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn a ddangosir â llinellau ar Fap F—
(a) yn cael ei throsglwyddo o ward Trecenydd; a
(b) yn ffurfio rhan o ward Energlyn.
13 
Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap G—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanbradach a Phwll-y-Pant;
(b) yn ffurfio rhan o ward Pwll-y-Pant; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanbradach.
14 
Mae'r rhan o gymuned Maesycwmer a ddangosir â llinellau ar Fap H—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pengam;
(b) yn ffurfio rhan o ward Pengam; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pengam.
15 
Mae'r rhan o gymuned Pengam a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Maesycwmer;
(b) yn ffurfio rhan o ward Maesycwmer; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Maesycwmer.
16 
Mae'r rhan o gymuned Maesycwmer a ddangosir â llinellau ar Fap I—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pontllanfraith;
(b) yn ffurfio rhan o ward Pontllanfraith; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pontllanfraith.
17 
Mae'r rhan o gymuned Pontllanfraith a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Maesycwmer;
(b) yn ffurfio rhan o ward Maesycwmer; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Maesycwmer.
18 
Mae'r rhannau o gymuned Pengam a ddangosir â llinellau ar Fap J a Map K—
(a) yn cael eu trosglwyddo i gymuned Cefn Fforest;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cefn Fforest; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cefn Fforest.
19 

(1) Diddymir y gymuned bresennol Rhisga, a rhennir yr ardal er mwyn ffurfio dwy gymuned newydd, sef Dwyrain Rhisga a Gorllewin Rhisga, fel y'u dangosir ar Fap L a Map M.
(2) Mae'r gymuned newydd Dwyrain Rhisga yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain Rhisga.
(3) Mae'r gymuned newydd Gorllewin Rhisga yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gorllewin Rhisga.
20 
Mae'r rhan o gymuned Crymlyn a ddangosir â llinellau ar Fap N—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pen-maen;
(b) yn ffurfio rhan o ward Pen-maen; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-maen.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2010