
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.
2 
1 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym—
(a) paragraffau 14 i 17 o Atodlen 3 (penodiadau'r GIG a phenodiadau iechyd eraill: atal dros dro);
(b) paragraffau 18 ac 19 o Atodlen 3 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
(c) adran 19 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 3 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2010