
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Medi 2010.
2 
Diddymir adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu wedi hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2010