
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar—
(a) 6 Ebrill 2010 at ddibenion rheoliad 6; a
(b) 12 Ebrill 2010 at bob diben arall.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £22.50 yr wythnos.
3 
Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009 drwy hyn wedi eu dirymu.
4 
Mae rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau drwy hyn wedi ei ddirymu.
5 

(1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraff canlynol.
 Yn Atodlen 3 ym mharagraff 28H—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.65” rhodder y ffigur “£5.75” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£8.45” rhodder y ffigur “£8.60” ym mhob lle y mae'n ymddangos.
6 

(1) Diwygir y Prif Reoliadau ymhellach yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) ar ôl y geiriau “prospective resident” mewnosoder—“
 “qualifying age”” has the same meaning as in section 1(6) of the State Pension Credit Act 2002;
 “relative” has the same meaning as in the Income Support Regulations;”.
(3) Yn Atodlen 2 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), yn is-baragraff (2) o baragraff 3—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “the age of 60” rhodder “the qualifying age”; a
(b) ym mharagraff (c), yn lle “the age of 60” ym mhob lle y mae'n ymddangos, rhodder “the qualifying age”.
(4) Yn Atodlen 3 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), yn is-baragraff (6) o baragraff 28H, hepgorer paragraff (b).
(5) Yn Atodlen 4 (cyfalaf sydd i'w ddiystyru), ym mharagraff 2, yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—“
(1) The value of any premises—
(a) which would be disregarded under paragraph 2 or 4(b) of Schedule 10 to the Income Support Regulations (premises acquired for occupation and premises occupied by a former partner); or
(b) occupied in whole or in part as their home by the resident's—
(i) partner,
(ii) other family member or relative who is aged over 60 or over or is incapacitated, or
(iii) child”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2010