
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
2 
Daw'r darpariaethau canlynol o Ddeddf 2005 i rym ar 1 Ebrill 2010 o ran Cymru:
(a) adran 101 (ariannu ysgolion a gynhelir) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod,
(b) adran 117 (diwygiadau pellach) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod,
(c) adran 123 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 isod,
(ch) Atodlen 16, paragraffau 1 i 7 (ariannu ysgolion a gynhelir),
(d) Atodlen 18, paragraffau 5, 7-9, 11, 13, 14 (diwygiadau pellach),
(dd) yn Atodlen 19, yn Rhan 4, diddymu Deddf Safonau ac Fframwaith Ysgolion 1998, adran 45A(5) a (6), Deddf Addysg 2002, adrannau 41(2), 42 ac yn Atodlen 21, paragraffau 124(3) a 125(3), Deddf Llywodraeth Leol 2003, yn Atodlen 7, paragraff 66.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010