
1 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Traffordd yr M4” (“the M4 Motorway”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4.
3 
Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd wrth Gyffordd 24 Traffordd yr M4, Cyfnewidfa Coldra, yn Ninas Casnewydd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2010
YR ATODLEN


 Y FFORDD YMADAEL TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt 123 o fetrau i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMUNO TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 25 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN (Y LÔN AR WAHÅN)
Y darn hwnnw o'r ffordd ar wahân i ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48.
 Y FFORDD YMUNO TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 6 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
