
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009;
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
2 
Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£55.93” rhodder “£57.16”; a
(b) yn lle “£20.26” rhodder “£20.70”.
3 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7 o Reoliadau 2009, ar ôl “Yn rheoliad 13(2)(l)(ii)” rhodder “o Reoliadau 1986”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2010