
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) mae'r diffiniad o “Divisional Veterinary Manager” wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 13(5) a (6) a 16(8), yn lle'r geiriau “appropriate Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man y maent yn ymddangos, rhodder “Welsh Ministers”.
3 
Yn rheoliad 23(1) o Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006, yn lle “a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
4 
Yn rheoliad 13 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006, yn lle “ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw” rhodder “Gweinidogion Cymru ar unwaith”.
5 
Yn lle rheoliad 11 o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006 rhodder–“
11 
Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi ei frechu, fel sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, eu hysbysu ar unwaith.”
6 

(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae rheoliad 8(3) wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 8(1)(a) a (2) ac 11(b) yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010