
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2 

(1) Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term “Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Welsh Ministers”.
(2) Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, neu, fel y bo'n briodol, “Divisional Veterinary Manager” yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.
3 

(1) Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 5(5), yn lle “Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager” rhodder “Welsh Ministers”.
(3) Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau “The inspector is with all practicable speed”) i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).
4 

(1) Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 1983 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 19(2), yn lle “Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area” rhodder “Welsh Ministers”.
(3) Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.
5 
Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.
6 

(1) Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 4(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.
(3) Yn erthygl 5(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.
7 
Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 rhodder—“
(5) Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that—
(a) notification has been received under this article; and
(b) Schedule 1 applies in relation to the premises.”.
8 
Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 wedi ei hepgor.
9 
Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 1995 wedi ei ddirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010
ATODLEN 1
Erthygl 2(1)


Enw Cyfeiriad Y darpariaethau a ddiwygiwyd
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966 O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 3
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974 O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 4(3)(a) a (b)
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthyglau 4(2), (3)(b), (4) a (5)(a) a 5(4)
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthyglau 4(1), (2)(a) a (b), (3)(a), (b) ac (c), 7 (Rheolau 8 a 9) a 9, a Rheolau 8 a 9 yn Ffurflen A yn Atodlen 1
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989 O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthyglau 4(1), 5(1), a 7(b)
Gorchymyn Anthracs 1991 O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthyglau 4, 7(2) a 9
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995 O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthyglau 4(1), (3)(i) a (ii) a (4)(a) a 6(2), paragraffau 3 a 5 o Ran I o'r Atodlen a pharagraff 7 o Ran II o'r Atodlen
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 O.S. 1996/2628 Erthygl 5(1)(a)
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 O.S. 2003/1079 (Cy. 148) Erthygl 4(1)(a) a (2)
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 O.S. 2003/2456 (Cy. 239) Erthygl 4(1) a (2); Erthygl 13(3), paragraff 8 o Ran I o Atodlen 1, paragraff 20 o Ran II o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran I o Atodlen 2, paragraff 9 o Ran II o Atodlen 2
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 O.S. 2003/3273 (Cy. 323) Erthyglau 4(1) a (2) a 13(3), paragraff 9 o Ran1 o Atodlen 1, paragraff 11 o Ran 2 o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2, paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 O.S. 2006/179 (Cy. 30) Erthyglau 9(1), (2), (3) a (4) a pharagraff 1 o Atodlen 7
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 O.S. 2006/867 (Cy. 79) Erthyglau 3(1)(b) a (2), 4(1) a 5(1)
Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 O.S. 2006/2927 (Cy. 262) Erthygl 9(1), (2) a (3)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 O.S. 2006/1053 (Cy. 109) Erthyglau 5(1)(a) a (2), 6(1) a 9(2)(ch)(i)
ATODLEN 2
Erthygl 2(2)


Teitl Cyfeiriad Y ddarpariaeth y dirymwyd y diffiniad ynddi
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966 O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 2(1)
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974 O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 2(1)
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 3(1)
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989 O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 2(1)
Gorchymyn Anthracs 1991 O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 2(1)
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995 O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 Erthygl 3
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 O.S. 1996/2628 Erthygl 2
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 O.S. 2003/1079 (Cy. 148) Erthygl 3(1)
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 O.S. 2003/2456 (Cy. 239) Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 O.S. 2003/3273 (Cy. 323) Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 O.S. 2006/179 (Cy.30) Erthygl 3(1)
Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006 O.S. 2006/866 (Cy.78) Erthygl 2(1)
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 O.S. 2006/867 (Cy. 79) Erthygl 2(1)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 O.S. 2006/1053 (Cy. 109) Erthygl 3(1)