
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2 
Ar 1 Ebrill 2010 diddymir corfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor a throsglwyddir ei heiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo, sef corff corfforaethol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
3 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor yn union cyn 1 Ebrill 2010 fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogid felly;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2010