
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 24 Mawrth 2010.
2 
Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 yn unol â rheoliadau 3 i 11.
3 

(1) Diwygir Rhan 1 (Rhagarweiniad) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 6 (dehongli), rhodder—“
6 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;
 ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;
 ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais ar gyfer rhanddirymiad;
 mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
 ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c) neu gynlluniau eraill tebyg y mae'n ofynnol eu cael o dan Atodlen 4;
 ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
 ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
 ystyr “da byw sy'n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
 ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â'i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i'r meddiannydd ac sy'n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
 ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y rhoddwyd rhanddirymiad ar ei gyfer;
 ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
 ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
 ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
 ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
 ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
 ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
 ystyr “porfa” (“grass”) yw—
(a) glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);
(b) yr hyn a geir rhwng hau'r borfa ac aredig y borfa; ac
(c) gan gynnwys cnydau wedi'u hau o dan y borfa,ond nid yw'n cynnwys glaswelltir sydd a 50% neu ragor o feillion;
 mae “pridd tenau” (“shallow soil”) yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
 ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall—
(a) pan fo yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm—
(i) mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,
(ii) llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
(iii) llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig; a
(b) pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
(i) mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2mm,
(ii) llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
(iii) llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;
 ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn fel a ddarperir ym mharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a roddwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2009/431/EEC a roddwyd gan yr Asiantaeth neu, ar apêl, gan y panel apelau ar gais i randdirymu o dan reoliad 13B;
 ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);
 mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi arwyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
 ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy'n dod o ffynonellau anifail, planhigyn neu ddynol ac mae'n cynnwys tail da byw;
 ystyr “tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—
(a) y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º;
(b) nad oes ganddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio); ac
(c) sydd o leiaf 50 o fetrau o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr.”.
4 

(1) Diwygir Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig) fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw — y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad), mewnosoder “Ac eithrio pan fo'r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.
5 
Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—“
RHAN 3A
13A 

(1) Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i'r Asiantaeth am randdirymiad os cafodd 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.
(2) Rhaid cyflwyno cais i randdirymu—
(a) erbyn 30 Ebrill 2010 am randdirymiad 2010;
(b) o ran cais ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl 2010, rhwng y dyddiadau 1 Hydref a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo'n ymarferol a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd yr Asiantaeth yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddi ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth wrthod cais i randdirymu os yw o'r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd–
(a) safle Ewropeaidd; neu
(b) safle morol alltraeth Ewropeaidd,
pan fo'r safleoedd hynny'n wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 48 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994.
(6) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod caniatáu'r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â'r weithdrefn a osodir yn rheoliad 13B.
(7) Pan fo'r Asiantaeth wedi caniatáu'r cais i randdirymu, rhaid i'r Asiantaeth ddynodi'r daliad y mae'r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
(8) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r cais i randdirymu a'r penderfyniad.
(9) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Morol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007; a
(b) ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 10 (ystyr safle Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994.
13B 

(1) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn (“y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu”).
(2) Rhaid i apêl yn erbyn gwrthod cais i randdirymu gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy'n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.
13C 

(1) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu gael ei ffurfio o odrif o bersonau, heb fod yn llai na thri pherson, a dod i benderfyniad drwy fwyafrif syml.
(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ystyried yr apêl a phenderfynu p'un ai caniatáu'r apêl ai peidio.
(3) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ddod i benderfyniad yn seiliedig ar ddogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd a'r Asiantaeth, oni fydd yn penderfynu fod arno angen gwybodaeth ychwanegol i ffurfio barn, ac os felly caiff—
(a) gofyn i'r apelydd, neu'r Asiantaeth, ddarparu deunyddiau ychwanegol; a
(b) mewn amgylchiadau eithriadol caiff gynnal gwrandawiad llafar.
(4) Mewn gwrandawiad llafar mae gan yr apelydd a'r Asiantaeth yr hawl i ymddangos.
(5) Rhaid i bob parti ysgwyddo ei gostau ei hun.
13CH 

(1) Os bydd y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu yn caniatáu'r apêl, rhaid i'r daliad y mae'r cais i randdirymu yn gymwys iddo gael ei ddynodi gan yr Asiantaeth fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr honno.
(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu—
(a) hysbysu'r Asiantaeth, y ceisydd a Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o'i ganfyddiadau; a
(b) os gwrthodir yr apêl, rhoi'r rhesymau dros wrthod.
13D 
Mae Atodlen 4 yn cael effaith o ran daliadau a randdirymwyd.”.
6 

(1) Diwygir Rhan 4 (Y gofynion ar gyfer cnydau) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3) o reoliad 15 (Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn), rhodder—“
(3) Cyn taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a) faint sydd ei hangen; a
(b) y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).”.
(3) Yn rheoliad 16 (cyfanswm y nitrogen sydd i'w daenu ar ddaliad)—
(a) yn lle paragraff (a), rhodder—“
(a) y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a”;
(b) yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 17,”;
(c) ar ôl “a daenir ar y cnydau canlynol” hepgorer “, wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 17,”; ac
(ch) yn lle troednodyn (d), rhodder—“
(d) Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad i'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu'r swm a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae'r cynnyrch a ddisgwylir yn uwch na'r cynnyrch safonol.”.
7 

(1) Diwygir Rhan 5 (Rheoli'r broses o daenu gwrtaith nitrogen) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 20 (taenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd wrth ymyl dŵr wyneb), rhodder—“
20 
Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr o ddŵr wyneb.”.
(3) Yn lle rheoliad 22 (rheoli'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu), rhodder—“
22 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy'n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy'n llai na 4 metr o'r ddaear.
(2) Gellir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy'n fwy na 4 metr o'r ddaear ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o'r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 filimedr yr awr pan fydd wrthi'n gweithredu'n ddi-dor.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu gwrtaith nitrogen wneud hynny mewn modd sydd mor gywir â phosibl.”.
8 

(1) Diwygir Rhan 6 (Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (a) o reoliad 27 (esemptiadau ar gyfer daliadau organig), rhodder—“
(a) ar gnydau a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu”.
9 
Ym mharagraff (2) o reoliad 42 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) o Ran 8 (Cyfrifiadau a chofnodion), o flaen “a weithgynhyrchwyd” mewnosoder “nitrogen”.
10 
Yn lle Atodlenni 1 i 3, rhodder cynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
11 

(1) Diwygir Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol &c.) 1994 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 84D (rhanddirymiadau o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau 2008), mewnosoder—“
84E 

(1) Regulations 48 (assessment of implications for European site) and 49 (considerations of overriding public interest) apply in relation to the granting of a derogation under Part 3A of the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2008.
(2) Where regulations 48 and 49 apply, the competent authority may, if they consider any adverse effects of the plan or project on the integrity of a European site or European offshore marine site would be avoided if the derogation were subject to conditions, grant the derogation, subject to those conditions.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2010
YR ATODLEN
Rheoliad 10

“
ATODLEN 1
Rheoliadau 6 a 38

Tabl 1
Categori Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)
Gwartheg
Llo (pob categori ac eithrio ar gyfer cig llo) hyd at 3 mis: 7 23 12.7
Buwch odro—   
O 3 mis a llai na 13 mis: 20 95 34
O 13 mis tan ei llo cyntaf: 40 167 69
Ar ôl ei llo cyntaf ac y mae—   
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 o litrau: 64 315 142
ei chynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 o litrau: 53 276 121
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 o litrau: 42 211 93
Buchod neu fustych cig eidion—   
O 3 mis a llai na 13 mis: 20 91 33
O 13 mis a llai na 25 mis: 26 137 43
O 25 mis—   
gwartheg benyw neu fustych i'w cigydda: 32 137 60
gwartheg benyw ar gyfer bridio—   
sy'n pwyso 500kg neu lai: 32 167 65
sy'n pwyso'n fwy na 500kg: 45 227 86
Teirw   
Nad ydynt yn bridio, 3 mis a throsodd: 26 148 24
Bridio—   
o 3 mis a llai na 25 mis: 26 137 43
o 25 mis: 26 132 60
Defaid
O 6 mis hyd at 9 mis oed: 1.8 5.5 0.76
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: 1.8 3.9 2.1
Ar ôl ŵyna neu hwrdda—   
yn pwyso llai na 60 kg: 3.3 21 8.8
yn pwyso dros 60kg: 5 33 10.0
Geifr, ceirw a cheffylau
Geifr: 3.5 41 18.8
Ceirw—   
bridio: 542 17.6 
arall: 3.5 33 11.7
Ceffyl: 24 58 56



Tabl 2
Categori Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)
Gwartheg
Llo ar gyfer cig llo: 7 23 12.7
Dofednod
Iâr a ddefnyddir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl—   
llai na 17 wythnos: 0.04 0.64 0.47
o 17 wythnos (mewn caets): 0.12 1.13 1.0
o 17 wythnos (heb fod mewn caets): 0.12 1.5 1.1
Ieir a fegir am eu cig: 0.06 1.06 0.72
Ieir a fegir ar gyfer bridio—   
llai na 25 wythnos: 0.04 0.86 0.78
o 25 wythnos: 0.12 2.02 1.5
Twrci—   
gwryw: 0.16 3.74 3.1
benyw: 0.12 2.83 2.3
Hwyaden: 0.10 2.48 2.4
Estrys: 1.6 3.83 18.5
Moch
Pwysau o 7kg ac yn llai na 13kg: 1.3 4.1 1.3
Pwysau o 13kg ac yn llai na 31kg: 2 14.2 6.0
Pwysau o 31kg ac yn llai na 66kg—   
bwydo sych: 3.7 24 12.1
bwydo hylif: 7.1 24 12.1
Pwysau o 66kg ac—   
a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda—   
bwydo sych: 5.1 33 17.9
bwydo hylif: 10 33 17.9
hwch a fwriadwyd ar gyfer bridio na chafodd ei thorraid gyntaf hyd yn hyn: 5.6 38 20
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet gydag atchwanegiadau asidau amino synthetig: 10.9 44 37
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet heb asidau amino synthetig: 10.9 49 37
baedd bridio o 66kg hyd at 150kg: 5.1 33 17.9
baedd bridio o 150kg: 8.7 48 28

ATODLEN 2
Rheoliad 17
RHAN 1

Tail ac eithrio slyri Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)
Tail ac eithrio slyri o'r anifeiliaid a ganlyn— 
gwartheg: 6
moch: 7
defaid: 7
hwyaid: 6.5
ceffylau: 7
geifr: 6
Tail o ieir dodwy: 19
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: 30

Slyri Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg)
Gwartheg: 2.6 
Moch: 3.6 
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol)— 
 blwch hidlo: 1.5
 wal hidlo: 2
 hidl fecanyddol: 3
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): 4
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol): 3.6
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): 5
Dŵr budr:  0.5
RHAN 2
1 

(1) O ran slyri, rhaid cymryd o leiaf bum sampl a phob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Rhaid i'r sampl gael ei chymryd o lestr dal slyri, ac—
(a) os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r slyri fod wedi'i gymysgu'n drylwyr cyn i'r samplau gael eu cymryd, a
(b) rhaid i bob sampl gael ei chymryd o le gwahanol.
(3) Ond os oes falf addas wedi'i gosod ar dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer taenu, caniateir i'r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid i bob sampl gael ei chymryd bob hyn a hyn yn ystod y broses daenu.
(4) Rhaid i'r samplau gael eu harllwys i gynhwysydd mwy ei faint, eu troi'n drylwyr a rhaid i sampl 2 litr gael ei chymryd o'r cynhwysydd hwnnw a'i harllwys i gynhwysydd glân llai.
(5) Rhaid i'r sampl honno gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
2 

(1) O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid i bob is-sampl gael ei chymryd o leiaf 0.5 metr o wyneb y domen.
(4) Os yw samplau yn cael eu casglu i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i'w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn fwy na 12 mis oed.
(5) Rhaid dodi'r is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy'n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri a rhaid cymysgu'r is-samplau â'i gilydd yn drylwyr.
(7) Rhaid i sampl nodweddiadol, sy'n pwyso o leiaf 2 kg, gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
ATODLEN 3
Rheoliadau 27 a 29


Y cnwd Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar)
Rêp had olew, gaeaf 30
Merllys 50
Bresych 100
Porfa 80
Sgaliwns wedi'u gaeafu 40
Perllys 40
Bylbiau winwns 40



ATODLEN 4
Rheoliad 13D
1 
Mae'r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.
2 
Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—A≥(Ngl÷250)+(Nngl÷170)lle—
 A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno,
 Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy'n pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu, a
 Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.
3 

(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i'r meddiannydd—
(a) asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);
(b) cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c) llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Rhaid i'r meddiannydd wneud hyn—
(a) yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a
(b) yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.
4 
Yn ychwanegol at y gofynion o dan baragraff 3 rhaid i'r cynllun gwrteithio gofnodi—
(a) y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a'r dull a ddefnyddir i gadarnhau'r ffigur hwn;
(b) cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c) faint o nitrogen sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i'w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;
(ch) faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;
(d) faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac
(dd) faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).
5 

(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i'r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a'r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.
(3) Os na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd cyn 2010, rhaid cyflawni'r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—
(a) 75% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2011, a
(b) 100% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2012.
6 

(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i'w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—
(a) cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a
(b) faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi o'r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.
(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—
(a) faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b) y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).
7 

(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 18 (mapiau risg), rhaid i fap risg—
(a) dangos pob cae wedi'i farcio â Rhif cyfeirnod neu rif sy'n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;
(b) cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac
(c) cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
(2) Rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r map risg o fewn mis o unrhyw newid mewn amgylchiadau.
8 
Rhaid i'r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol sydd ar gael i ddodi tail arni yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn galendr honno.
9 
O ran unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, ni chaiff neb—
(a) aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;
(b) aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac
(c) aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.
10 
O ran hadu cnydau neu borfa ar unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, rhaid bod y tir—
(a) wedi'i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu
(b) wedi'i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
11 
Rhaid i gylchdro cnydau beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy'n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion a chodlysiau eraill gyda phorfa wedi'i hau oddi tanynt.
12 

(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a'r ardal o borfa o fewn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa yn newid rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r cofnod o fewn mis sy'n dechrau drannoeth y newid.
13 
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 36 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod sy'n disgrifio'r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
14 

(1) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a'r categori (yn unol â'r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i'w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr honno.
(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i'r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i'r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
15 

(1) Rhaid i'r meddiannydd—
(a) gwneud cofnod o'r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i'r daliad a'i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr honno; a
(b) cyfrifo a chofnodi faint o nitrogen yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4).
(2) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
16 
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 41 (cofnodion o'r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—
(a) y cnwd a heuwyd; a
(b) y dyddiad hau.
17 
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i feddiannydd gofnodi—
(a) o fewn wythnos o daenu tail organig—
(i) cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a
(ii) faint o ffosffad a gyflenwyd i'w amsugno gan y cnwd; a
(b) o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i) y dyddiad taenu; a
(ii) faint o ffosffad a daenwyd.
18 
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o'r aredig, ddyddiad yr aredig hwnnw.
19 

(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i'r Asiantaeth erbyn 30 Ebrill o'r flwyddyn ganlynol.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.
(3) Rhaid i'r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a) cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;
(b) yr ardal o'r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—
(i) gwenith gaeaf,
(ii) gwenith gwanwyn,
(iii) haidd gaeaf,
(iv) haidd gwanwyn,
(v) rêp had olew gaeaf,
(vi) betys siwgr,
(vii) tatws,
(viii)  indrawn porthi,
(ix) porfa, a
(x) cnydau eraill;
(c) nifer a chategori'r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â'r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(ch) faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d) faint o dail da byw a pha fath a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol;
(dd) faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(d) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);
(e) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; a
(f) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd a'i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol.”.
