
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007.
2 
Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3 

(1) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “HEES” a'r diffiniad o “HEES a Mwy”.
(2) Yn rheoliad 2, yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007 (O.S. 2007 Rhif 991);”;“
 mae i “cyfraddiad ased” yr ystyr a roddir i “asset rating” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007;”.
4 
Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—
“2A 
Ystyr “HEES” a “HEES a Mwy”
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr “HEES” (“HEES”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (f).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (h).
(3) Yn achos annedd—
(a) sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat; a
(b) y mae'r asiantaeth ardal yn fodlon bod y cyfraddiad ased ar ei chyfer yn 38 neu lai,
 ystyr “HEES” (“HEES”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1); ac ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1).
5 

(1) Yn rheoliad 5(1)(c) ac (ch), yn lle “£15,460” rhodder “£16,040”.
(2) Yn lle rheoliad 5(4)(ch) rhodder—
“(ch) pensiwn anabledd rhyfel fel y'i diffinnir gan adran 159B(6) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 neu bensiwn am anabledd o dan Ran II o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006, neu unrhyw ddyfarniad o bensiwn anabledd rhyfel y mae ei effaith yn parhau yn rhinwedd Atodlen 4, paragraff 8 i'r Gorchymyn hwnnw ynghyd ag—
(i) tâl atodol o ran symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (gan gynnwys y cyfryw dâl atodol sy'n daladwy yn rhinwedd cymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw), neu daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu tâl atodol o'r fath; neu
(ii) taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson).
6 

(1) Yn rheoliad 6(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.”, rhodder “;”.
(b) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(j) darparu inswleiddiad waliau solet.”.
(2) Yn rheoliad 6(2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.”, rhodder “;”.
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) y fath fân weithfeydd at ddibenion—
(a) gwella inswleiddiad thermol annedd; neu
(b) lleihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn annedd,
sydd ym marn yr asiantaeth ardal mewn unrhyw achos penodol yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.”.
7 

(1) Yn rheoliad 7(1) yn lle “Ni chaiff asiantaeth ardal”, rhodder—“
 Yn ddarostyngedig i baragraff (1A), ni chaiff asiantaeth ardal”.
(2) Ar ôl rheoliad 7(1) mewnosoder—“
(1A) Yn achos cais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n cyfeirio at annedd o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 2A(3), uchafswm y grant y caniateir ei dalu ar gyfer unrhyw un annedd o'r fath yw £12,000.”.
(3) Yn rheoliad 7(3) yn lle “baragraffau (1) a (2)” rhodder “baragraffau (1) i (2)”.
8 
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais gweithfeydd a wneir cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais hwnnw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2010