
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Darpariaethau Deddfau'r Cynulliad) (Taliadau Swyddogion Cyfrif) 2010 .
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y'i gwneir.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yr uchafswm adenilladwy cyffredinol ar gyfer ardal bleidleisio yw'r swm a restrir yng ngholofn 4 o'r Tabl yn yr Atodlen.
3 
Rhaid i gyfanswm y taliadau sy'n adenilladwy gan swyddog cyfrifo ran y gwasanaethau o'r disgrifiad penodedig yn erthygl 4 beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob ardal bleidleisio yng ngholofn 2 o'r Tabl yn yr Atodlen.
4 
Dyma'r gwasanaethau penodedig—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer y refferendwm;
(b) cyflawni swyddogaethau'r swyddog cyfrif o ran y refferendwm; a
(c) cynnal y refferendwm .
5 
Rhaid i gyfanswm y taliadau sy'n adenilladwy gan swyddog cyfrif o ran y treuliau o'r disgrifiad penodedig yn erthygl 6 beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob ardal bleidleisio yng ngholofn 3 o'r Tabl yn yr Atodlen.
6 
Dyma'r treuliau penodedig—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo'r swyddog cyfrif (gan gynnwys personau y cyfeirir atynt yn adran 128(4) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000);
(b) teithio a chynhaliaeth ar gyfer y swyddog cyfrif ac unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
(c) argraffu neu gynhyrchu papurau pleidleisio;
(ch) argraffu a danfon dogfennau pleidleisio drwy'r post (gan gynnwys y papur pleidleisio drwy'r post, y datganiad pleidleisio drwy'r post, amlen y papur pleidleisio a'r brif amlen);
(d) argraffu a danfon y cardiau pleidleisio;
(dd) argraffu a chyhoeddi hysbysiadau a dogfennau ar gyfer neu mewn cysylltiad â'r refferendwm;
(e) rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer (gan gynnwys atgyweirio unrhyw ddifrod a wneir i) unrhyw adeilad neu ystafell;
(f) darparu a chludo cyfarpar y mae ei angen i gynnal y refferendwm;
(ff) darparu meddalwedd a chyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(g) darparu diogelwch a dulliau o storio blychau papurau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau eraill ar gyfer y refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;
(ng) cynnal y gwirio a'r cyfrif (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif) ;
(h) darparu a chael hyfforddiant;
(i) deunyddiau swyddfa, postio a danfon, ffôn, argraffu, cyfieithu, bancio a chostau amrywiol; a
(j) cyflenwi copïau (neu rannau) o'r gofrestr i'w defnyddio wrth gynnal y refferendwm.
Carwyn Jones
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2010
YR ATODLEN
Erthyglau 2, 3 a 5



(1) (2) (3) (4)
Ardal bleidleisio Yr uchafswm adenilladwy ar gyfer y gwasanaethau penodedig Yr uchafswm adenilladwy ar gyfer y treuliau penodedig Yr uchafswm adenilladwy cyffredinol
Abertawe £8,736 £310,894 £319,630
Blaenau Gwent £2,527 £118,317 £120,844
Bro Morgannwg £4,397 £181,943 £186,340
Caerdydd £11,637 £445,764 £457,401
Caerffili £6,099 £243,839 £249,938
Casnewydd £4,899 £191,942 £196,841
Castell-nedd Port Talbot £5,198 £234,912 £240,110
Ceredigion £2,825 £113,929 £116,754
Conwy £4,334 £150,944 £155,278
Gwynedd £4,129 £192,196 £196,325
Merthyr Tudful £2,500 £106,624 £109,124
Pen-y-bont ar Ogwr £4,959 £171,286 £176,245
Powys £4,892 £232,094 £236,986
Rhondda Cynon Taf £8,176 £326,651 £334,827
Sir Benfro £4,383 £181,347 £185,730
Sir Ddinbych £3,538 £131,230 £134,768
Sir Gaerfyrddin £6,285 £301,501 £307,786
Sir Fynwy £3,334 £138,604 £141,938
Sir y Fflint £5,493 £187,720 £193,213
Tor-faen £3,321 £143,370 £146,691
Wrecsam £4,794 £170,547 £175,341
Ynys Môn £2,500 £103,421 £105,921
