
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2 
10 Ionawr 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o'r Mesur–
(a) adran 2 i'r graddau y mae'n gymwys i'r awdurdodau Cymreig;
(b) adran 4;
(c) adran 5;
(ch) adran 6;
(d) adran 17; ac
(dd) adran 18.
3 
Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 yn parhau i fod yn effeithiol er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i 26(1D) o Ddeddf Plant 2004 yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2010