
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009;
 ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys” (“Powys Teaching Local Health Board area”) yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd;
 ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cyn Gyngor” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y Cynghorau sy'n parhau” (“the continued Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;
 ystyr “y Cynghorau newydd” (“new Councils”) yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y dyddiad diddymu” (“abolition date”) yw 1 Ebrill 2010;
 ystyr “y dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Ebrill 2010;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2010;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
3 
Sefydlir, yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, y chwe Chyngor Iechyd Cymuned a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n dwyn yr enwau a roddir iddynt yn yr Atodlen honno.
4 

(1) Mae pob ardal Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfateb i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar ei chyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned o dan baragraff (1) yn cael ei hamrywio, mae ardal y Cyngor Iechyd Cymuned i'w hamrywio'n unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu ardal Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bodoli neu i gyfuno dwy ardal Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy.
5 
Dyma swyddogaethau'r Cynghorau newydd—
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf:
(ii) yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf; a
(iii) byddant yn cynnwys swyddogaethau'r cyn Gynghorau a drosglwyddir i'r Cynghorau newydd gan erthygl 6.
6 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gynghorau neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny.
(2) Mae gan y Cynghorau newydd y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
(3) Rhaid i Gyngor newydd gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.
7 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gynghorau am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010.
(2) Rhaid i Gyngor newydd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2010 neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i'r Cyngor newydd, yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o'r Rheoliadau.
8 
Bydd unrhyw beth a wnaed gan y cyn Gynghorau neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor newydd yn cael effaith, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan y Cyngor newydd neu mewn perthynas ag ef.
9 
Mae'r ddau ar bymtheg o Gynghorau Iechyd Cymuned a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a barhaodd mewn bodolaeth neu a sefydlwyd o dan adran 182 o'r Ddeddf yn cael eu diddymu gydag effaith o'r dyddiad diddymu.
10 

(1) Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn yn parhau mewn bodolaeth.
(2) Ardal gyfunol y Cynghorau hyn sy'n parhau yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.
(3) Os bydd ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn cael ei hamrywio mae ardal gyfunol y ddau gyngor hyn i gael ei hamrywio'n unol â hynny.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio'r ardal y sefydlir y naill Gyngor neu'r llall, neu'r ddau Gyngor, sy'n parhau drosti.
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys neu i gyfuno ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys ag ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu â fwy nag un ohonynt.
(6) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir o fewn yr erthygl hon, mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn cadarnhau'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau drostynt ac y maent yn parhau i arfer eu swyddogaethau drostynt.
11 
Dyma swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau—
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf: a
(ii) yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2010
ATODLEN 1
Erthyglau 3 a 4


Colofn 1 Colofn 2
Enwau Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3 Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer
1 Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
2 Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
3 Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
4 Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
5 Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
6 Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
ATODLEN 2
Erthygl 9


Cynghorau Iechyd Cymuned a oedd yn parhau mewn bodolaeth, neu a gafodd eu sefydlu, o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
1 Cyngor Iechyd Cymuned Dwyrain Conwy
2 Cyngor Iechyd Cymuned Gorllewin Conwy
3 Cyngor Iechyd Cymuned Clwyd
4 Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Gwynedd
5 Cyngor Iechyd Cymuned Meirionnydd
6 Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn
7 Cyngor Iechyd Cymuned Gwent
8 Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd
9 Cyngor Iechyd Cymuned Bro Morgannwg
10 Cyngor Iechyd Cymuned Merthyr a Chwm Cynon
11 Cyngor Iechyd Cymuned Pontypridd a Rhondda
12 Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe
13 Cyngor Iechyd Cymuned Castell-nedd a Phort Talbot
14 Cyngor Iechyd Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr
15 Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
16 Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro
17 Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion
ATODLEN 3
Erthygl 10


Enw'r Cyngor Iechyd Cymuned Ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer
1 Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed Dosbarth Maesyfed a Brycheiniog
2 Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn Dosbarth Sir Drefaldwyn gan gynnwys cymunedau