
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Ymgynghori â Phwyllgorau Deintyddol Lleol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 21 Rhagfyr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf;
 ystyr “cyflawnydd” (“performer”) yw ymarferydd deintyddol sydd wedi hysbysu Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno cael ei gynrychioli gan Bwyllgor Deintyddol Lleol a'i fod yn cyflawni gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn yr ardal y mae Pwyllgor Deintyddol Lleol wedi ei ffurfio ar ei chyfer, yn unol ag adran 56(2) o'r Ddeddf, yn unol â threfniadau adran 64 neu o dan gontract gwasanaethau deintyddol cyffredinol;
 ystyr “darparydd” (“provider”) yw ymarferydd deintyddol sydd, o dan gontract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y mae wedi ymrwymo iddo, yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn yr ardal y mae Pwyllgor Deintyddol Lleol wedi ei ffurfio ar ei chyfer;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” (“primary dental services”) yw gwasanaethau deintyddol a ddarperir yn unol ag adran 56 o'r Ddeddf; ac
 ystyr “Pwyllgor Deintyddol Lleol” (“Local Dental Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 69 o'r Ddeddf.
2 
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â Phwyllgor Deintyddol Lleol perthnasol ynghylch cynllunio a chyflenwi gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn ardal y Bwrdd hwnnw gan gynnwys—
(a) cynigion ar gyfer gwasanaethau deintyddol sylfaenol ychwanegol neu newydd sydd o bwys neu newidiadau o bwys i'r gwasanaethau deintyddol sylfaenol sy'n bodoli eisoes; a
(b) cynigion strategol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau deintyddol a gofal iechyd y geg yn y dyfodol.
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ar gais darparydd neu gyflawnydd, wahodd Pwyllgor Deintyddol Lleol perthnasol i gymryd rhan mewn trafodaethau rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a darparydd neu gyflawnydd ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol gan gynnwys trafodaethau ynghylch—
(a) adolygiad blynyddol o berfformiad;
(b) datrys anghydfodau yn lleol;
(c) cynigion i derfynu contractau neu gytundebau; ac
(ch) sancsiynau mewn contractau neu gytundebau.
4 
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wahodd Pwyllgor Deintyddol Lleol perthnasol i gymryd rhan mewn arolygiadau o bractisau gan y Bwrdd Iechyd Lleol a wneir yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 3 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 neu baragraff 44 o Atodlen 3 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006.
5 
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â Phwyllgor Deintyddol Lleol perthnasol os yw Bwrdd Iechyd Lleol o'r farn nad yw perfformiad clinigol a/neu broffil gweithgareddau triniaeth darparydd neu gyflawnydd yn cydymffurfio â'r hyn y mae Bwrdd Iechyd Lleol o'r farn ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer rhoi triniaeth i gleifion o ran—
(a) ailalwadau priodol;
(b) patrymau atgyfeirio amhriodol;
(c) patrymau rhagnodi eithriadol;
(ch) adroddiadau arolygu anffafriol ar bractisau; a
(d) materion llywodraethu clinigol eraill.
6 
Os bydd argyfwng, pan na fo'n bosibl i Fwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â Phwyllgor Deintyddol Lleol na'i wahodd i gymryd rhan yn unol â rheoliadau 3, 4 neu 5, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r Pwyllgor Deintyddol Lleol mewn ysgrifen cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2010