
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn erthygl 5(a) yn lle “hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012, mai £6,500 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament, a £5,000 neu lai ar ôl y dyddiad hwnnw” rhodder “o 1 Ebrill 2010 ymlaen, mai £7,800 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament”.
(3) Yn erthygl 7(ch) yn lle “£6,500” rhodder “£7,800” ac yn lle “£9,000” rhodder “£11,000 am y cyfnod o 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2012”.
(4) Yn erthygl 11(a) yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”.
(5) Yn erthygl 11(b) yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2010