
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010; deuant i rym trannoeth y diwrnod y'u gwneir.
2 
Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 

(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i (“food business operator”) gan Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
 ystyr “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol” (“conventionally reared meat chicken”) yw anifail o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir i gynhyrchu cig, ac eithrio—
(a) un sydd ar ddaliad gyda llai na 500 anifail o'r fath neu gyda stoc bridio yn unig o anifeiliaid o'r fath;
(b) un sydd ar ddeorfa;
(c) un y gellir defnyddio'r term “Megir yn helaeth dan do (mewn cytiau)”, (“Extensive indoor (barn-reared)”), “Iâr fuarth” (“Free range”), “Iâr fuarth – dull traddodiadol” (“Traditional free range”) neu “Iâr fuarth – dull hollol rydd” (“Free range – total freedom”) o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod; neu
(ch) un a fagwyd yn organig yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig ac sy'n dirymu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91;”;
(b) yn y diffiniad o “llaesodr” (“litter”) ar ôl y geiriau “ieir dodwy” mewnosoder “ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol” ac yn lle'r geiriau “galluogi'r ieir” rhodder y geiriau “galluogi'r adar hynny”;
(c) ar ôl y diffiniad o “ceidwad” (“keeper”), mewnosoder—“
 ystyr “dwysedd stocio” (“stocking density”) mewn perthynas ag unrhyw gwt lle cedwir ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, yw cyfanswm pwysau yn fyw yr ieir sy'n bresennol yn y cwt ar yr un pryd i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio;”; ac
(ch) yn y diffiniad o “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”)—
(i) ar ôl “(“usable area”)” mewnosoder “, mewn perthynas ag ieir sy'n dodwy, ”,
(ii) ar y diwedd, mewnosoder “, neu, mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, unrhyw le dan laesodr y gall yr ieir gael ato ar unrhyw adeg”.
(2) Yn rheoliad 2(2) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder—“
(aa) mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC yn gosod rheolau gofynnol ar gyfer diogelu ieir a gedwir i gynhyrchu cig.”.
4 

(1) Yn rheoliad 5(1)(a), ar ôl “Atodlenni 2 i 4”, mewnosoder “ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol”.
(2) Yn rheoliad 5(1), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 5A;”.
(3) Ar ôl rheoliad 5(3), mewnosoder—“
(4) Mae Rhan 1 o Atodlen 5A yn effeithiol.”.
5 
Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—“
5A 
Mae Rhan 3 o Atodlen 5A yn effeithiol.”.
6 

(1) Yn rheoliad 7 ail rifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1).
(2) Ar ôl paragraff (1) (wedi ei ail rifo felly) ychwaneger—“
(2) Mae gweithredydd busnes bwyd sydd, heb awdurdod cyfreithiol neu esgus cyfreithiol, yn methu â chydymffurfio â dyletswydd ym mharagraff 14(2) o Atodlen 5A, yn cyflawni tramgwydd.”.
7 
Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 2(3) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A;”;
(b) ym mharagraff 5, cyn y geiriau “Rhaid gofalu” mewnosoder “Heb ragfarnu paragraff 11(3) o Atodlen 5A”;
(c) ym mharagraff 7—
(i) yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “neu” yr ail waith y digwydd;
(ii) yn is-baragraff (b)(iii), hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl is-baragraff (b)(iii), mewnosoder—“
(iiia) yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A; neu”.
8 
Ar ôl Atodlen 5 i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, mewnosoder yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2010
YR ATODLEN
Rheoliad 8

Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder—“
ATODLEN 5A
Rheoliadau 5 a 5A
RHAN 1
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am ieir neu sydd â gofal dros ieir yn nhermau contract neu yn ôl y gyfraith p'un ai ar sail barhaol yntau dros dro;
 ystyr “iâr” (“chicken”) yw iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol;
 mae i “milfeddyg swyddogol” yr un ystyr ag sydd i (“official veterinarian”) yn Rheoliad 854/2004;
 ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid;
 ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bob).
RHAN 2
2 

(1) Rhaid i geidwad ddal tystysgrif a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Erthygl 4(3) neu (4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC (tystysgrifau cwblhau cyrsiau hyfforddiant neu brofiad cyfatebol).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd ac mewn modd a ystyrir ganddynt yn briodol, gyhoeddi rhestr o dystysgrifau a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (1).
3 

(1) Oni fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio.
(2) Caniateir dwysedd stocio uwch na 33 cilogram a hyd at 39 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio os cydymffurfir â gofynion paragraff 5.
4 

(1) Rhaid i geidwad sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o'r dwysedd stocio arfaethedig ar gyfer pob cwt y bwriedir cadw ieir ynddo ar ddwysedd uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio, ac o unrhyw newid diweddarach i'r dwysedd hysbysedig hwnnw.
(2) Rhaid i'r hysbysiad fod yn y cyfryw ddull a ffurf ag y dichon fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid rhoi hysbysiad (gan gynnwys hysbysiad o unrhyw newid) o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn bod stocio ar y dwysedd hwnnw neu ddwysedd wedi newid yn digwydd.
(4) Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn ŵyl y Banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
5 
Gofynion y paragraff hwn yw bod rhaid i'r ceidwad—
(a) cynnal a chadw ac, os gofynnir iddo wneud hynny, peri bod dogfennau ar gael i Weinidogion Cymru yn y cwt yn disgrifio'n fanwl y systemau cynhyrchu, ac yn benodol yn rhoi gwybodaeth ar fanylion technegol y cwt a'r offer ynddo, gan gynnwys—
(i) plan o'r cwt gan gynnwys mesurau'r arwynebeddau y mae'r ieir yn eu meddiannu;
(ii) gwyntylliad ac unrhyw system oeri a chynhesu berthnasol (gan gynnwys eu lleoliad), a phlan gwyntyllu, sy'n dangos paramedrau ansawdd aer yr anelir atynt (megis y llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd);
(iii) systemau bwydo a dyfrio (a'u lleoliadau);
(iv) systemau larwm ac wrth gefn os digwydd i unrhyw offer sy'n hanfodol er iechyd a lles yr ieir dorri i lawr;
(v) math y llawr a'r llaesodr a ddefnyddir fel rheol; a
(vi) cofnodion o archwiliadau technegol o'r systemau gwyntyllu a'r systemau larwm;
(b) peri bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael eu cadw'n gyfredol;
(c) sicrhau bod yna offer gwyntyllu ym mhob cwt ac, os oes angen, systemau gwresogi ac oeri sydd wedi'u dylunio, wedi'u hadeiladu ac yn cael eu gweithredu yn y fath fodd—
(i) fel nad yw'r dwysedd o amonia yn uwch na 20 rhan i'r filiwn ac nad yw dwysedd y carbon deuocsid yn uwch na 3,000 rhan i'r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau'r ieir;
(ii) pan fo'r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, nad yw'r tymheredd y tu mewn yn uwch na'r tymheredd y tu allan o fwy na 3°C; a
(iii) pan fo'r tymheredd y tu allan islaw 10°C, nad yw'r lleithder cymharol cyfartaledig pan gaiff ei fesur y tu mewn i'r cwt yn ystod cyfnod parhaus o 48 awr yn uwch na 70%.
6 

(1) Rhaid i ddalwyr diod fod wedi'u lleoli a bod yn cael eu cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel mai'r ychydig lleiaf sy'n gorlifo ohonynt.
(2) Rhaid i fwyd anifeiliaid fod ar gael naill ai yn barhaus neu ar adegau bwydo.
(3) Rhaid peidio â rhoi'r gorau i fwydo'r ieir â bwyd anifeiliaid fwy na 12 awr cyn amser disgwyliedig eu cigydda.
7 
Rhaid i bob iâr fedru cael at laesodr bob amser sy'n sych ac yn hyfriw ar yr wyneb.
8 

(1) Rhaid i'r gwyntyllu fod yn ddigonol i osgoi gorboethi.
(2) Rhaid i wyntyllu, o'i gyfuno â'r systemau awyru, fod yn ddigonol i gael gwared â gorleithder.
9 
Ym mhob cwt—
(a) rhaid i lefel y sŵn fod ar ei isaf posibl; a
(b) rhaid i ffaniau gwyntyllu, peirianwaith bwydo neu beirianwaith arall fod wedi eu hadeiladu a'u lleoli, ac yn cael eu gweithredu a'u cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel eu bod yn peri cyn lleied o sŵn ag sy'n bosibl.
10 

(1) Rhaid bod golau ym mhob cwt a'i ddwyster yn o leiaf 20 lux yn ystod y cyfnodau goleuo, o'i fesur ar lefel llygad yr adar ac sy'n goleuo o leiaf 80% o'r lle y gellir ei ddefnyddio.
(2) Caniateir gostyngiad dros dro o'r lefel hwnnw o oleuo pan fo angen yn dilyn cyngor milfeddygol.
(3) O fewn 7 diwrnod o'r adeg pan gaiff yr ieir eu rhoi yn y cwt a hyd 3 diwrnod cyn adeg ddisgwyliedig eu cigydda, rhaid i'r golau ddilyn rhythm 24 awr a rhaid iddo gynnwys cyfnodau o dywyllwch sy'n para am gyfanswm o o leiaf 6 awr, gydag o leiaf un cyfnod di-dor o dywyllwch o o leiaf 4 awr, heb gynnwys cyfnodau pylu.
11 

(1) Rhaid i geidwad sicrhau bod yr holl ieir a gedwir ar y daliad yn cael eu harolygu o leiaf ddwywaith y dydd.
(2) Rhaid talu sylw arbennig i arwyddion sy'n dynodi gostyngiad yn safon iechyd neu les yr anifeiliaid.
(3) Rhaid i ieir sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol neu sy'n dangos arwyddion amlwg o afiechyd (gan gynnwys y rheini sy'n cael anhawster i gerdded, rhai â dropsi'r bol difrifol neu rhai sydd â chamffurfiadau difrifol), ac sy'n debygol o ddioddef, gael triniaeth briodol neu gael eu difa'n syth.
12 
Wedi diboblogi cwt yn derfynol a chyn cyflwyno haid newydd—
(a) rhaid glanhau'n llwyr a diheintio unrhyw ran o gwt, ac unrhyw gyfarpar neu declyn a fu mewn cysylltiad â'r ieir; a
(b) rhaid clirio ymaith bob llaesodr a gosod llaesodr lân.
13 

(1) Rhaid i geidwad gadw cofnod ar gyfer bob cwt—
(a) o nifer yr ieir a gyflwynir iddo;
(b) o'r lle y gellir ei ddefnyddio;
(c) o groesryw neu frîd yr ieir (os yw'n hysbys);
(ch) o nifer yr ieir a gafwyd yn farw, gan nodi achosion y farwolaeth (os yw'n hysbys), ynghyd â nifer yr ieir a gafodd eu difa, gyda'r achos, ar bob arolygiad; a
(d) o nifer yr ieir sydd ar ôl yn yr haid wedi symud ieir ymaith i'w gwerthu neu i'w cigydda.
(2) Rhaid dal gafael ar y cofnod am o leiaf 3 blynedd.
RHAN 3
14 

(1) At ddibenion Adran III (gwybodaeth y gadwyn fwyd) o Atodiad II i Reoliad 853/2004, caiff y gyfradd farwolaeth ddyddiol a'r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus a chroesryw neu frîd yr ieir o haid gyda dwysedd stocio uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio eu trin fel gwybodaeth iechyd bwyd berthnasol.
(2) Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg lladd-dy—
(a) o dan arolygiaeth y milfeddyg swyddogol, gofnodi nifer yr ieir o haid o'r fath sy'n farw pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy; a
(b) rhoi'r wybodaeth honno i'r milfeddyg swyddogol os gofynnir amdani.
(3) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol” (“daily mortality rate”) yw nifer yr ieir mewn cwt sydd wedi marw ar yr un diwrnod gan gynnwys y rheini a gafodd eu difa naill ai oherwydd afiechyd neu am resymau eraill, wedi ei rannu wrth nifer yr ieir sydd yn y cwt ar y diwrnod hwnnw, a'i luosi wrth 100;
 ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus” (“cumulative daily mortality rate”) yw cyfanswm y cyfraddau marwolaeth dyddiol.
15 

(1) Rhaid i filfeddyg swyddogol sy'n cyflawni rheolaethau o dan Reoliad 854/2004 mewn cysylltiad ag ieir werthuso canlyniadau'r arolygiad post-mortem er mwyn canfod arwyddion posibl o amodau lles gwael ar eu daliad neu yn eu cwt gwreiddiol.
(2) Os yw cyfradd marwolaeth yr ieir neu ganlyniadau'r arolygiad post-mortem yn gyson ag amodau lles anifeiliaid gwael, rhaid i'r milfeddyg swyddogol hysbysu'r data hwnnw i geidwad yr ieir hynny ac i Weinidogion Cymru yn ddi-oed.”.
