
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(2) Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn cael effaith.
4 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959;
 ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982;
 ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989;
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002; ac
 ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004.
5 
Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol onid yw—
(a) yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b) yn bodloni gofynion a bennir mewn o leiaf un o'r paragraffau yn Atodlen 2.
6 
Os caniateir i unrhyw berson gyflawni'r gwaith a bennir yn rheoliad 7 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 2, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy'n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw'n absennol o'r gwaith—
(a) wrth i'r person hwnnw arfer—
(i) ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996 neu gan gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i'r gwaith yn rhinwedd y naill neu'r llall o'r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii) ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;
(iii) ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A, 80AA, 80B neu 80BB o Ddeddf 1996; neu
(iv) ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996; neu
(b) oherwydd beichiogrwydd.
7 

(1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b) cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac
(ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
8 
Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2010
ATODLEN 1
Rheoliad 3
RHAN 1

Y Rheoliadau a Ddirymwyd Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 O.S. 2004/1744 (Cy.183) Y Rheoliadau cyfan
RHAN 2
1 
Yn achos person a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, mae rheoliad 14 ac Atodlen 6 i barhau i gael effaith hyd oni chydymffurfiwyd â'u holl ddarpariaethau.
2 
O ran athrawon—
(a) y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu
(b) a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,nid ydynt i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
ATODLEN 2
Rheoliad 5
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau 2004; ac
 ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2004 neu gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion o dan reoliad 11 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003.
2 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos—
(a) athrawon cynorthwyol mewn ysgol feithrin; neu
(b) athrawon dosbarth meithrin,
y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol yn yr un swyddogaeth ag yr oeddynt yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.
3 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn cysylltiad ag unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grŵp o bynciau, y mae angen ynddynt gymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn gwneud hynny.
(2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol—
(a) os yw'r awdurdod lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu yn achos uned cyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu sy'n gweithredu gyda chydsyniad yr awdurdod lleol (yn achos ysgol a chanddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol), yn ôl y digwydd, ar adeg penodi'r personau, wedi ei fodloni ynghylch eu cymwysterau neu eu profiad neu eu cymwysterau a'u profiad; a
(b) os nad oes, ar adeg penodi'r personau, unrhyw athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig addas, neu athro neu athrawes sydd ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, ar gael i'w benodi neu i'w phenodi felly; neu
(c) os nad oes, ar adeg penodi'r personau, mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen hon, unrhyw berson addas sy'n dal cymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i'w benodi felly.
(3) Dim ond am y cyfnod hwnnw, pan nad oes unrhyw athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig addas neu athro neu athrawes sydd ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i'w penodi neu i'w phenodi neu, mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen hon, dim ond am y cyfnodau hynny pan nad oes unrhyw berson addas sy'n dal cymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i'w benodi felly, y caiff personau a benodir a chanddynt gymwysterau arbennig neu brofiad arbennig a ddisgrifir yn is-baragraff (1), ac sy'n bersonau sy'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 fel a ganiateir gan is-baragraff (2), wneud hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982—
(a) os am gyfnod penodedig y'u penodwyd, os ac ar yr amod nad yw'r cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu
(b) os am gyfnod amhenodedig y'u penodwyd, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai penodiad dros dro yn unig ydoedd.
4 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig sy'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod yn rhaglen o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) am gyfnod o hyd at ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y maent yn cyflawni gyntaf waith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol.
5 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â chwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu yn Lloegr.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) o dan oruchwyliaeth athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn ymgymryd â phrofiad dysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw.
6 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a chanddynt gymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol i'r graddau mai cyflwyno cyrsiau astudio galwedigaethol sy'n ffurfio rhan neu'r cyfan o gwricwlwm lleol a ffurfiwyd gan awdurdod lleol yn unol ag adran 116A o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yw'r gwaith.
7 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol hyd oni fyddant yn cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.
8 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi eu crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.
(2) Dim ond os bodlonir yr amodau canlynol y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol—
(a) bod y personau'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(b) bod y personau'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig o'r fath yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol; ac
(c) bod y pennaeth wedi ei fodloni bod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7.
(3) Os ydynt o'r farn bod yr enwebiad yn briodol yn yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu personau a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 yn yr Atodlen hon yn athrawon enwebedig at ddiben is-baragraff (2).
(4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad sy'n ofynnol i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol, caiff penaethiaid roi sylw–
(a) i'r safonau hynny ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu ganllawiau ynghylch staff cymorth ysgol, y gall Gweinidogion Cymru eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd; a
(b)  i'r canllawiau hynny o ran materion contract sy'n ymwneud â staff cymorth ysgol y gall unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd.